Mae deintyddiaeth y Gwasanaeth Iechyd yn dal i fod yn ddiffygiol mewn sawl rhan o Gymru, yn ol gwaith ymchwil gan y Democratiaid Rhyddfrydol sy’n cael ei ddatgelu heddiw.
Yn ôl yr ymchwil, dim ond 37% o ddeintyddfeydd yng Nghymru sy’n derbyn cleifion newydd ar hyn o bryd – tra bod gan 63% o ddeintyddion, sydd yn fodlon derbyn cleifion, restr aros.
Mae’r Dems Rhydd yn dweud bod yr ystadegau yn brawf bod deintyddiaeth, a iechyd y geg, wedi cael ei esgeuluso gan Lywodraeth Cymru dros y blynyddoedd diwethaf.
‘Problemau sylweddol’
“Mae darganfyddiadau ein harolwg yn cadarnhau bod problemau sylweddol yn dal i wynebu’r gwasanaeth,” meddai arweinydd y Dems Rhydd Cymreig, Kirsty Williams.
“Un o’r materion mwyaf yw’r ffaith fod deintyddiaeth ymhell o fod yn wasanaeth cyffredinol. Dwi’n meddwl ei bod hi’n syfrdanol mai dim ond 37% o ddeintyddion sy’n derbyn cleifion newydd ar y Gwasanaeth Iechyd.
“Yng Nghymru’r 21ain Ganrif, dylai agor deintyddfa newydd ddim fod yn fater i’r penawdau newyddion, ond yn anffodus, dyna’r sefyllfa,” meddai.
‘Angen newid’
Mae’r ymchwil yn datgelu bod methu apwyntiadau yn broblem mawr i ddeintyddion, gyda dros hanner y deintyddion wedi gweld cynnydd mewn apwyntiadau wedi eu colli yn y flwyddyn ddiwethaf.
Roedd 53% o ddeintyddion hefyd yn dweud eu bod yn cael problemau gyda’r ffordd mae contractau deintyddiaeth yn cael eu cynnal – a thraean yn credu bod angen ei newid.
Yn ôl Kirsty Williams, mae’r sefyllfa yn profi bod “cleifion llai breintiedig yn cael eu hanfanteisio” gan y system.
Nawr mae’r Dems Rhydd Cymreig eisiau i Lywodraeth Cymru “wrando ar yr hyn sydd gan ddeintyddion i’w ddweud ar draws Cymru,” meddai, “er mwyn i ni gael gwasanaeth sy’n fanteisiol i bob rhan o gymdeithas, ar draws Cymru gyfan.”