Ed Miliband
Mae na alw am ymchwiliad annibynol a diwygiadau brys i’r ffordd mae pleidliau’n cael eu hariannu yn dilyn datgeliad David Cameron ddoe ei fod wedi cynnal ciniawau yn Downing Street i gyfranwyr y Blaid Geidwadol.
Roedd y Prif Weinidog wedi ildio i bwysau i ddatgelu manylion y cyfarfodydd gyda phobl sydd wedi cyfrannu arian mawr i’r blaid, yn dilyn ymddiswyddiad cyd-drysorydd y blaid ddydd Sadwrn.
Roedd Peter Cruddas wedi honi y gallai rhoi arian i’r blaid sicrhau cyfarfodydd gyda gweinidogion blaenllaw’r blaid a dylanwadu ar bolisi.
Ond mae’r Blaid Lafur wedi wfftio addewidion David Cameron i gynnal ymchwiliad mewnol i Peter Cruddas ac wedi galw am ymchwiliad annibynol.
Ddoe, roedd y Ceidwadwyr wedi cyhoeddi enwau’r rhai oedd wedi cyfrannu at y blaid ac a oedd wedi bod am ginio yn Downing Street.
Mae polau piniwn yn awgrymu bod y Ceidwadwyr yn colli cefnogaeth oherwydd y mater, a Chyllideb amhoblogaidd George Osborne wythnos ddiwethaf.