Mae cwmni Game wedi cyhoeddi y bydd 277 o’u siopau yn cau dros yr wythnos nesaf – naw ohonyn  nhw yng Nghymru.

Cafodd y cwmni gemau fideo ei roi yn nwylo’r gweinyddwr heddiw.

Fe fydd eu siopau Game a Gamestation yn cau yng Nghaerdydd, Llandudno, Llanelli, Casnewydd, Y Rhyl, Abertawe, Wrecsam, a dau ym Merthyr Tudful.

Mae PwC wedi ei benodi fel gweinyddwyr Game sydd â 609 o siopau yn y DU.

Mae Game, sy’n cyflogi 385 o staff yn ei bencadlys yn Baskingstoke, a 5,100 yn ei siopau, wedi gweld ei elw’n gostwng yn sylweddol yn ddiweddar gyda rhai cyflenwyr yn gwrthod cyflenwi nwyddau newydd i siopau’r cwmni.