Map Metro Caerdydd
Mae artist wedi mynd ati i greu map sy’n dangos sut olwg fyddai ar fap rhwydwaith Metro tanddaearol yng Nghaerdydd.
Ddydd Mawrth galwodd adroddiad gan Bartneriaeth Busnes Caerdydd a’r Sefydliad Materion Cymreig am rwydwaith Metro ar gyfer Caerdydd a’r Cymoedd.
Fe fyddai’n golygu gwario £2.5 biliwn ond, yn ôl yr awduron, fe allai roi hwb i’r economi a thorri ar y grant i wasanaethau rheilffordd yng Nghymru.
Cyhoeddodd Christian Amodeo ei fap ei hun yn dychmygu sut y gallai’r Metro edrych ddoe, ac mae o wedi cael sylw mawr ar safleoedd we gan gynnwys Twitter yn barod.
Dywedodd yr artist, sy’n fwyaf enwog am ei grysau-t ‘I Loves the ‘Diff’, ei fod wedi cael y syniad rai misoedd yn ôl ond wedi penderfynu gorffen y map ar ôl gweld yr adroddiadau yn y wasg.
“Beth os fyddai gan ein dinas hyfryd ni system rheilffordd danddaearol fel y Tiwb?” meddai. “Mae yna alwadau newydd am system o’r fath ac roedd hi’n hwyl dychmygu sut y byddai’n edrych.”
Mae’r map yn debyg iawn o ran cynllun i fap tanddaearol Llundain, a gafodd ei greu gan Harry Beck yn 1931.
Mae’n cynnwys rheilffyrdd gydag enwau Cymraeg, ‘Canolog’, ‘Cwtsh’, ac ambell i un wedi ei enwi ar ôl arwyr lleol, ‘Jim Discroll’, ‘John Charles’, a ‘Barry John’.
Mae’r system Metro sy’n cael ei argymell gan yr adroddiad ychydig yn llai uchelgeisiol.
Fe fyddai’n cynnwys gwasanaeth tram o beddau a Creigiau i ganol Caerdydd a thrwodd i’r Bae, rhwng Maerdy, Llantrisant a Phontypridd, rhwng Penarth, Y Barri, Maes Awyr Caerdydd a Phen-y-bont ar Ogwr, ac o dwnnel Hafren i Gaerdydd, gan aros mewn gorsafoedd llai