Y cerflun
Mae disgwyl i gerflun anferth o ddraig yn Wrecsam gael caniatâd cynllunio ddydd Llun.
Mae penaethiaid y cyngor wedi argymell y dylid adeiladu’r ddraig efydd 25 metr o uchder, a fydd yn sefyll ar dwr 40 metr o uchder, ger yr Waun.
Penderfynodd cynghorwyr i beidio a rhoi caniatáu cynllunio i’r ddraig ddechrau’r mis diwethaf gan godi amheuon am liw y cerflun.
Fe ddylai’r ddraig fod yn goch yn hytrach nag yn wyrdd, medden nhw. Roedd pryderon hefyd am y cynllun busnes a’r effaith ar y ffyrdd cyfagos.
Ond mae penaethiaid y cyngor wedi penderfynu cefnogi’r cynllun unwaith eto ar ôl i’r dyn busnes sy’n gobeithio adeiladu’r ddraig, Simon Wingett, ddarparu rhagor o wybodaeth.
Bydd unrhyw elw sy’n cael ei gynhyrchu gan y ddraig yn mynd tuag at elusen Apêl Canser Frank Wingett.
“Rydw i’n credu fod y cais yma yn gynnig unigryw a digynsail,” meddai pennaeth cynllunio cyngor Wrecsam, Lawrence Isted.
Y gobaith yn wreiddiol oedd adeiladu’r ddraig erbyn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam ym mis Awst ond mae’r oedi wrth gael caniatâd cynllunio yn gwneud hynny’n annhebygol.