Sam Warburton
Bydd capten tîm rygbi Cymru, Sam Warburton yn gallu ail ddechrau chwarae rygbi ymhen 6 wythnos ar ôl i feddygon gadarnhau nad yw wedi gwneud niwed difrifol i’w ysgwydd.
Golyga hyn y bydd yn holliach ar gyfer gêm olaf Gleision Caerdydd yn erbyn y Sgarlets.
Cafodd Warburton ei anafu yn ystod y gêm yn erbyn Ffrainc roddodd y gamp lawn i Gymru ac roedd pryder na fuasai yn gallu charae eto am rai misoedd.
Bydd Warburton yn mynd i weld arbenigwr unwaith eto ymhen bythefnos er mwyn cadw llygad ar yr anaf ond dywedodd ei fod yn ffyddiog y bydd yn gallu chwarae rhagor o rygbi cyn diwedd y tymor.