North - Yn creu argraff oddi ar y fainc
Gleision 14–26 Scarlets

Y Scarlets fu’n fuddugol yn y gêm ddarbi Gymreig yn y RaboDirect Pro12 nos Sadwrn. Cafodd Bois y Sosban y gorau o’r Gleision mewn gwledd o geisiau yn Stadiwm Dinas Caerdydd. Er i’r tîm cartref dirio ddwywaith fe groesodd y rhanbarth o’r gorllewin am bedwar cais i sicrhau buddugoliaeth a phwynt bonws.

Hanner Cyntaf

Y Gleision a gafodd y gorau o’r gêm yn y deg munud cyntaf ond daeth Scarlets i mewn iddi wedi hynny. A’r ymwelwyr a gafodd y cyfle cyntaf i roi pwyntiau ar y bwrdd pan droseddodd y Gleision yn ardal y dacl wedi chwarter awr. Ond methodd Aled Thomas y gic wrth iddi aros yn ddi sgôr.

Fe fethodd Dan Parks gyda chynnig at y pyst wedi ychydig dros hanner awr hefyd wrth iddi barhau yn ddi sgôr tan bum munud olaf yr hanner.

Daeth y sgôr o’r diwedd bedwar munud cyn yr egwyl pan groesodd asgellwr y Scarlets, Andy Fenby, am gais cyntaf y gêm. Ciciodd canolwr y Scarlets, Johnathan Davies, yn ddeallus tuag at linell gais y Gleision ond dylai Alex Cuthbert fod wedi gwneud yn well wrth amddiffyn. Methodd arwr Cymru a sicrhau’r bêl ac roedd Fenby wrth law i dirio cais rhwydd.

Roedd hi’n 7-0 yn dilyn trosiad Thomas ac felly yr arhosodd hi tan yr egwyl.

Ail Hanner

Dim ond pedwar munud o’r ail hanner a gymerodd hi i Fenby sgorio ei ail gais o’r gêm ac roedd yn gais hynod debyg i’r un cyntaf. Dilyn cic ei hunan at y llinell gais a wnaeth Fenby y tro hwn ond unwaith eto smonach amddiffynnol gan y Gleision a oedd yn gyfrifol am y cais. Parks oedd y dyn yn ôl y tro hwn ond methodd y maswr gyda’i ymdrech i gicio’r bêl allan a rhoddwyd ail gais ar blât i Fenby.

Roedd y trosiad yn un anodd iawn i Thomas ond llwyddodd y maswr eto gan ymestyn mantais y Scarlets i 14 pwynt yn gynnar yn yr ail hanner.

Cafwyd ymateb da gan y Gleision wedi hynny ond daliodd amddiffyn y Scarlets yn gryf hyd yn oed wedi i’w hasgellwr, Sean Lamont, gael ei anfon am ddeg munud yn y gell gosb am daro’r bêl ymlaen yn fwriadol.

Ond doedd fawr a allai amddiffyn y Scarlets ei wneud i atal cais agoriadol y Gleision wedi 56 munud. Rhyngipiodd Cuthbert bas Aled Thomas yn ei hanner ei hunnan cyn rhedeg yr holl ffordd at y pyst. Cuthbert yn gwneud yn iawn am ei gamgymeriad cynharach ef felly a’r Gleision yn ôl o fewn saith pwynt yn dilyn trosiad llwyddiannus yr eilydd faswr, Ceri Sweeney.

Roedd hi’n gêm agored iawn yn awr wrth i’r ddau dîm geisio rhedeg y bêl ar bob cyfle. A doedd fawr o syndod gweld cais arall wedi 64 munud. Roedd hi’n ymddangos fod Johnathan Edwards wedi gwastraffu’r cyfle yn dilyn gwrthymosodiad da Fenby a Davies ar yr asgell chwith ond fe ddaeth y bêl yn ôl i’r Scarlets ac fe diriodd y mewnwr, Gareth Davies, ar y dde yn dilyn ymdrech wael i’w daclo gan Gavin Henson.

Methodd Thomas y trosiad felly 12 pwynt oedd ynddi gyda chwarter awr yn weddill ac roedd y bwlch i lawr i bump dri munud yn ddiweddarach diolch i gais Casey Laulala a throsiad Sweeney i’r Gleision. Tro’r Scarlets i amddiffyn yn wan oedd hi y tro hwn a manteisiodd Laulala i sgorio o dan y pyst.

Daeth George North i’r cae fel eilydd ar gyfer y munudau olaf a gwnaeth yr asgellwr cyhyrog gryn argraff wrth greu pedwerydd cais i’r Scarlets chwe munud o’r diwedd. Chwalodd North ei ffordd trwy amddiffyn y Gleision cyn dad lwytho i’r clo, Dominic Day, i sgorio cais i ennill y gêm i Fois y Sosban. 26-14 y sgôr terfynol yn dilyn trosiad Thomas a phwynt bonws i’r Scarlets hefyd.

Mae’r fuddugoliaeth a’r pwynt bonws yn agor pum pwynt o fwlch rhwng y Scarlets yn y chweched safle  a’r Gleision yn seithfed safle tabl y RaboDirect Pro12.