Andrew RT Davies
Bydd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies yn dweud heddiw y dylai pob cefnogwr Plaid Cymru gefnogi’r Ceidwadwyr os ydyn nhw’n “ falch o’u hetifeddiaeth a’u diwylliant a’u hiaith.”
Dyma fydd byrdwn ei neges i rali wanwyn y Ceidwadwyr yn Llanelwy. Mae’r Ceidwadwyr yn credu y bydd llawer o gefnogwyr Plaid Cymru yn poeni y bydd yr arweinydd newydd, Leanne Wood, yn mynd a’r blaid ormod tua’r chwith.
Yn yr etholiadau ar gyfer y Senedd fe lwyddodd y Ceidwadwyr i ddisodli Plaid Cymru a dod yn ail i’r Blaid Lafur ac mae nhw’n gobeithio adeiladu ar hyn yn yr etholiadau lleol.
Cynhelir y rali yma cyn yr etholiadau ar 3 Mai. Mae’r Ceidwadwyr yn gobeithio ennill mwyafrif o seddau ar gynghorau Conwy a Sir Ddinbych ble mae nhw’n rhannu grym ar hyn o bryd, a dal eu gafael ar gynghorau Bro Morgannwg a Threfynwy.
Bydd y rali yn cymeryd lle’r gynhadledd flynyddol oedd i fod i’w chynal yn Llandudno fis yn ôl ond gafodd ei gohirio gyda bythefnos o rybydd oherwydd costau.
Bydd Ysgrifennydd Cymru Cheryl Gillan hefyd yn annerch y rali.
Mewn annerchiad gerbron y Ceidwadwyr yn yr Alban yn Troon dydd Gwener dywedodd bod yr uniad rhwng Cymru, yr Alban, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn cynnig “cryfder, diogelwch, rhyddid a ffyniant” a disgwylir iddi ddefnyddio’r un themau yn ei haraith yn Llanelwy.