Roedd gwerthiant y Wales on Sunday 58% yn fwy na’r arfer ar y Sul ar ôl i Gymru gipio’r Gamp Lawn.

Ac mae’r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod y WoS ymysg dau bapur yn unig yng Nghymru sydd wedi cynyddu ei werthiant o flwyddyn i flwyddyn, gan 0.2% i 28,662.

Bu mwy o fynd ar rifyn cynta’r wythnos o’r Western Mail hefyd, gyda chynnydd o 25% yn y gwerthiant. Fel arfer mae’n gwerthu 25,898.

 Mae copïau o’r Wales on Sunday diwetha’ yn cael eu gwerthu ar Ebay erbyn hyn, gyda’r papur sy’n cael ei brynu am £1 fel arfer yn mynd m £4.