Meirion Prys Jones
Mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg wedi dweud bod cynnwys llythyr am eu Prif Weithredwr ym mhapur newydd Y Cymro heddiw yn hollol anghywir.
Yn y llythyr mae ‘Eira Hughes, Glanaman’ yn honni fod Meirion Prys Jones wedi anghofio talp o’i araith tra’n annerch cyfarfod o’r Bwrdd ym Mrynaman.
Ond mae llefarydd y Bwrdd wedi dweud na fu unrhyw anerchiad ganddo.
“Gan na siaradodd Meirion Prys Jones am gynllun y Bwrdd yn Aman Tawe o gwbl yng nghyfarfod y Bwrdd yng Nglanaman ddiwedd Ionawr, ac eithrio i ddiolch i bobl eraill am eu cyflwyniadau ac i ddiolch bobl yr ardal am eu cefnogaeth, mae’n amhosibl rhoi unrhyw goel ar gynnwys y llythyr rhyfedd hwn yn Y Cymro,” meddai llefarydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg.
Yn ail frawddeg y llythyr mae ‘Eira Hughes’ yn cyfaddef mai stori ail law sydd ganddi: ‘Clywais stori ddifyr gan un o swyddogion BYIG [Bwrdd yr Iaith Gymraeg] yn ddiweddar am un o gyfarfodydd olaf y Bwrdd.’
Aiff yn ei blaen i honni fod Meirion Prys Jones wedi galw am sefydlu ‘Pwerdai Iaith’, gan restru pedwar maes strategol pwysig.
Aiff ‘Eira Hughes ymlaen i honni fod Meirion Prys Jones wedi anghofio talp o’i araith: ‘Yn wir, dim ond y pedwar maes allweddol a strategol bwysig yma oedd yn cyfri, ac roedd y pedwar maes o strategaeth allweddol bwysig yma yn bwysig iawn, sef 1 Swyddi, economi leol a gwaith 2 Tai a chartrefi 3 Addysg, na sori, …m…Ysgol a Bysis..na…Cartrefi…falle…Plant?
‘Ac wrth gwrs yn olaf…ym…y…yn olaf…wrth gwrs…y…y…ym…beth oedd e’ eto?’
Ond yn ôl llefarydd Bwrdd yr Iaith ni lefarodd Meirion Prys Jones y geiriau hyn.
“Efallai y byddai’n syniad i’r sawl sydd am fynegi barn am yr hyn a ddywedwyd mewn cyfarfodydd cyhoeddus fynychu’r cyfarfodydd eu hunain yn hytrach na dibynnu ar ffynonellau ail-law.”
Mae Y Cymro yn dweud nad ydyn nhw wedi derbyn unrhyw gŵyn gan Fwrdd yr Iaith, ond os ddaw un mi wnawn nhw gynnal ymchwiliad.