Nid oes unrhyw dystiolaeth bod Mohamed Merah â chysylltiadau gydag al Qaida, medd swyddog sy’n ymchwilio i droseddau’r llofrudd  yn Ffrainc.

Yn ôl y swyddog nid oes unrhyw arwydd ei fod wedi ei “hyfforddi nag wedi cysylltu gyda chriwiau trefnus na jihadists”.

Roedd Merah wedi teithio i Afghanistan a Phacistan, ac roedd erlynwyr wedi son fod Merah yn honni iddo gysylltu gydag al Qaida.

Cafodd Merah ei ladd gan yr heddlu ddoe wedi cythrwfwl barodd am 32 awr yn ei gartref yn Toulouse.