Fflur Dafydd
Nofel Fflur Dafydd, Y Llyfrgell, a gipiodd y Gwerthwr Ffuglen Gorau yn Gymraeg yng ngwobrau’r diwydiant cyhoeddi wythnos yn ôl.

Erbyn hyn mae’r Lolfa wedi cytuno y caiff golwg360 ddatgelu maint y gwerthiant.

Y Llyfrgell gipiodd gwobr goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol 2009 a bu’n werthwr da yn yr eisteddfod honno hefyd.

Y gwerthwr gorau ar gyfer llyfr ffeithiol yng ngwobrau’r cyhoeddwyr oedd Yogi – Mewn Deg Eiliad gan Bryan Davies. Cafodd dros ddwy fil o gopïau eu gwerthu gan Y Lolfa.

Cysylltodd golwg360 â Gwasg Gomer a gofyn sawl copi werthwyd o’r llyfr barddoniaeth werthodd orau, ond doedden nhw ddim yn fodlon dweud. Buddugwr y categori hwnnw oedd Cerddi Dic yr Hendre, sef cyfrol o farddoniaeth y diweddar Archdderwydd, Dic Jones.

Cynhaliwyd gwobrau’r diwydiant cyhoeddi yr wythnos ddiwethaf, a threfnwyd y noson gan y corff sy’n hyrwyddo cyhoeddi a darllen yng Nghymru, y Cyngor Llyfrau, sy’n cael ei ariannu gan y pwrs cyhoeddus.