Mae Prifysgol Bangor wedi gorfod ymddiheuro ar ôl anfon gwahoddiadau graddio uniaith Saesneg allan i fyfyrwyr Cymraeg.
Fe dderbyniodd nifer o Gymry Cymraeg y Brifysgol lythyr uniaith Saesneg ddechrau’r wythnos, yn eu gwahodd i’w seremoni graddio yn yr haf eleni.
Un o’r myfyrwyr hynny oedd y myfyriwr PhD a’r ymgyrchydd iaith Rhys Llwyd, sy’n dweud fod yr ymddygiad yn “gwbwl nodweddiadol o Brifysgol Bangor.”
Tra’n astudio am radd doethur, mae Rhys Llwyd wedi arwain protestiadau Cymdeithas yr Iaith yn erbyn penodi swyddogion heb Gymraeg i Pontio – ymgyrchu sy’ wedi arwain at peth Cymreigio ar y prosiect £40m, gyda Chymry Cymraeg yn cael eu penodi i swydd pwysig.
Yn syth ar ôl derbyn y llythyr Saesneg, mi wnaeth Rhys Llwyd anfon cwyn at y Brifysgol.
Derbyniodd ymddiheuriad yn ôl gan y Brifysgol yn dweud eu bod nhw wedi cael wythnos brysur a bod y llythyron anghywir wedi cael eu postio at fyfyrwyr.
Mae golwg360 wedi cael cadarnhad bod gwahoddiadau Cymraeg wedi cael eu hanfon at fyfyrwyr Cymraeg y Brifysgol erbyn hyn.
Ond nid yw’r eglurhad gan y Birfysgol yn taro deuddeg gyda Rhys Llwyd.
“Os ydyn nhw’n brysur, maen nhw’n anghofio am y polisi iaith? Dyw hynny ddim yn iawn,” meddai Rhys Llwyd wrth golwg360.
Canolfan Bedwyr a’r cynllun iaith
Nid dyma’r tro cyntaf i Brifysgol Bangor gael ei chyhuddo o fod yn llac o ran glynu at ei pholisi iaith ar yr iaith Gymraeg.
Fe wnaethon nhw godi gwrychyn ymgyrchwyr iaith wrth benodi is-ganghellor di-Gymraeg i’r Brifysgol yn ôl yn 2010, a methu ystyried yr iaith wrth asesu gofynion y swydd honno – rhywbeth yr oedden nhw wedi’i ymwrymo i’w wneud yn eu Cynllun Iaith.
Canolfan Bedwyr sydd i fod i wneud yn saff fod y Cynllun Iaith yn cael ei roi ar waith.
Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Brifysgol Bangor.