George Osborne
Mae arweinydd y Blaid Lafur wedi cyhuddo’r Canghellor o gyflwyno “Cyllideb y Miliwnyddion” heddiw, ar ôl iddo gyhoeddi y byddai’r rheiny sy’n ennill dros £150,000 yn gorfod talu llai o dreth o fis Ebrill 2013 ymlaen.
Yn ôl Ed Miliband, fe fydd y Gyllideb a gyhoeddwyd heddiw yn golygu y bydd “miliynau yn talu mwy, tra bod miliwnyddion yn talu llai.”
Ond mae’r Canghellor yn mynnu bod y diwedd ar dreth o 50% yn dod law yn llaw â nifer o newidiadau i’r system gasglu treth fydd yn cau’r bylchau oedd yn caniatau i rai osgoi talu treth yn gyfreithlon.
Tâl rhanbarthol – ‘trychineb i Gymru’
Wrth i George Osborne gyhoeddi fod adolygiad yn mynd i gael ei gynnal i gyflwyno tâl rhanbarthol i weithwyr y sector cyhoeddus, mae undeb y PCS wedi galw’r newyddion yn “drychineb i Gymru.”
Yn ôl Jeff Evnas, Prif Swyddog y PCS yng Nghymru, mae dibyniaeth Cymru ar y sector cyhoeddus yn gwneud y cyhoeddiad yn arbennig o niweidiol i’r wlad.
“Mae’r cyhoeddiad heddiw’n agor cil y drws ar bolisi annheg a byddwn ni’n ymgyrchu’n galed i’w wrthwynebu,” meddai.
“Rwy’n galw ar Aelodau Seneddol Cymru i wrthwynebu tal rhanbarthol. Fel arall, fyddan nhw ddim yn cynrychioli buddiannau eu hetholwyr,” meddai.
Dywedodd y Canghellor y byddai corff annibynnol yn cael ei sefydlu i adolygu tâl rhanbarthol i sicrhau bod y cyflogau lleol yn adlewyrchu costau byw mewn gwahanol rhannau o Brydain.
Dywedodd y byddai rhai adrannau yn cael yr hawl i symud tuag at dâl rhanbarthol i weision sifil eleni, pan fod rhewi cyflogau yn dod i ben.
“Bydd staff y DVLA yn Abertawe yn cael eu heffeithio, ynghyd â staff yr Adran Waith a Phensiynau sy’n cyflogi tua 5,000 o bobl yng Nghymru. Ac rwy’n pryderi y bydd tal rhanbarthol yn cael ei ymestyn i adrannau eraill yn y gwasanaeth sifil maes o law,” meddai Jeff Evans.
Mae’r Aelod Seneddol Cymreig, Jonathan Edwards, yn dweud fod cyhoeddiad y Canghellor yn ymgais i gyflwyno tâl rhanbarthol “drwy’r drws cefn” er mwyn osgoi beirniadaeth.
“Bydd cynlluniau tâl rhanbarthol yn golygu gwir doriadau ar gyfer gweithwyr sector cyhoeddus yng Nghymru, ac yn defodi cyflogau isel a diffyg uchelgais,” meddai.
Cymru yn y Gyllideb
Mae gan y Gyllideb heddiw effaith uniongyrchol ar bobol ar draws Cymru, ac mae’r Swyddfa Gymreig yn dweud y bydd yr £11.7 miliwn ychwanegol sydd i fynd i Lywodraeth Cymru yn sgil y Gyllideb yn hwb ychwanegol i Gymru.
Mae’r Swyddfa Gymreig hefyd yn dweud y bydd 1.1 miliwn o bobol yng Nghymru ar eu hennill yn uniongyrchol yn sgil cyhoeddiad y Canghellor fod trothwy talu treth incwm i gael ei godi i £9,205.
Yn ôl yr ystadegau, bydd 42,000 o bobol yng Nghymru yn cael eu hesgusodi rhag talu treth incwm yn gyfan gwbwl yn sgil y newid, sy’n cael ei gyflwyno ym mis Ebrill 2013.
Maen nhw hefyd yn dweud y bydd 21,000 o gartrefi yng Nghymru yn manteisio o’r cyhoeddiad y bydd y trothwy ar gyfer colli budd-dal plant yn cael ei godi i £50,000.
Cyhoeddodd y Canghellor heddiw y byddai pobol sy’n ennill cyflog o dros £60,000 y flwyddyn yn colli budd-dal plant yn gyfan gwbwl, ond y byddai unigolion sy’n ennill incwm o dros £50,000 yn colli 1% o’u budd-dal cynnal plant am bob £100 y maen nhw’n eu hennill dros £50,000.
O ran rhwydweithiau Cymru, mae disgwyl i Gaerdydd fod ymhlith y 10 ddinas ar draws Prydain sydd i fod i elwa o waith i gyflymu cysylltiadau band eang.
Yn ôl y Swyddfa Gymreig, bydd Caerdydd yn derbyn hyd at £12 miliwn i ddarparu band eang cyflym iawn i hyd at 142,000 o drigolion y ddinas, ynghyd â 10,000 o fusnesau.
Mae hefyd disgwyl y bydd £50 miliwn ychwanegol yn cael ei roi gan y Llywodraeth tuag at gynllun arall yn ddiweddarach, gyda’r posibilrwydd y gallai Abertawe a Chasnewydd elwa bryd hynny.
Mae’r Llywdoraeth hefyd wedi dweud fod trydaneiddio’r rheilffordd rhwng Caerdydd a’r Cymoedd yn un y maen nhw’n awyddus i gydweithio â Llywodraeth Cymru arni. Gallai’r pecyn ariannol fod werth hyd at £300 miliwn, ond mae disgwyl mwy o fanylion ar y cynllun erbyn yr haf eleni.