Adam Price
Mae Arweinydd newydd Plaid Cymru wedi datgelu ei bod wedi penodi Adam Price fel pennaeth ei Chomisiwn Economaidd newydd heddiw.

Yn ôl Leanne Wood, fe fydd y Comisiwn yn datblygu gweledigaeth y blaid ar gyfer yr economi dros y degawdau i ddod.

Bydd y Comisiwn, dan arweiniad cyn-AS Plaid Cymru, Adam Price, yn canolbwyntio ar ddatblygu sectorau wedi eu targedi yn economi Cymru, fydd â’r potensial i greu cyfleoedd sylweddol am waith yn y dyfodol.

“Rhaid i economi Cymru harneisio ein cryfderau fel cenedl weithgar, sy’n gyfoethog o adnoddau naturiol,” meddai Leanne Wood, wrth gyhoeddi’r Comisiwn newydd heddiw.

“Mae Plaid Cymru wedi dangos y gallwn fel plaid gyflwyno ein gweledigaeth am economi gref, ac yr ydym wedi dangos pwysigrwydd creu’r amgylchiadau iawn i ganiatáu i fusnesau dyfu ac i ddarparu swyddi.

“Bydd y Comisiwn hwn yn chwarae rhan allweddol yn adeiladu gweledigaeth arall ac ymateb i’r cwestiwn mawr sydd yn wynebu’r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru: eu sicrwydd economaidd hwy a’u teuluoedd,” meddai.

Bydd y Comisiwn yn adrodd yn ôl yn rheolaidd i’r blaid dros y blynyddoedd nesaf, gyda’r bwriad o arwain at becyn o fesurau economaidd fydd yn addas i’w cyflwyno yn dilyn Etholiad Cyffredinol nesaf Cymru yn 2016.

Wrth drafod ei weledigaeth ef ar gyfer y Comisiwn heddiw, dywedodd Adam Price y byddai’n “gyfle cyffrous i ni oll edrych o’r newydd ar ehangder y polisïau sydd o’n blaenau.

“Byddaf i yn canolbwyntio ar osod y seiliau i greu polisïau nodedig, fydd yn ein galluogi i dyfu fel cenedl,” meddai.