Mae Ombwdsmon Cymru wedi beirniadu amseroedd ymateb ambiwlansau Cymru mewn adroddiad sy’n cael ei gyhoeddi heddiw.
Roedd yr Ombwdsmon Peter Tyndall wedi derbyn dwy gŵyn wahanol am yr amser a gymerodd i ambiwlans gyrraedd yn dilyn galwad 999 yn ardal Pontypridd. Yn ei adroddiad dywed yr Ombwdsmon y gallai ambiwlansau o adrannau eraill y gwasanaeth fod wedi cael eu hanfon i’r ddau ddigwyddiad er mwyn cyrraedd ynghynt, ond na feddyliwyd am eu hanfon.
Mewn un o’r achosion cymrodd yr ambiwlans ddwy awr a 47 munud, ers y galwad ffôn cyntaf, i’r ambiwlans gyrraedd y tŷ.
Bu farw’r dynion ond dywed yr Ombwdsmon nad yw’n debygol y byddai bywydau’r dynion wedi eu hachub tasai’r ambiwlansau wedi cyrraedd ynghynt. Fodd bynnag, dywed fod ymateb yr Ymddiriedolaeth Iechyd i gwynion y teuluoedd yn “druenus o annigonol”.
Gwnaeth yr Ombwdsmon gyfanswm o naw o argymhellion, gan gynnwys bod yr Ymddiriedolaeth Iechyd GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn ymddiheuro i deuluoedd y ddau ddyn ac yn talu iawndal priodol iddynt. Argymhellodd hefyd y dylai’r Ymddiriedolaeth adolygu’r drefn o anfon ambiwlansau i achosion brys.
Ymddiheuriad
Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: “Rydym yn cydnabod ac yn derbyn adroddiad yr Ombwdsmon ac yn ymddiheuro’n ddidwyll i’r ddau deulu oedd yn rhan o’r achosion hyn.
“Mae’r Ymddiriedolaeth wedi datblygu cynlluniau manwl i ddelio gyda’r argymhellion a amlinellwyd, a chyflwynwyd ymateb cychwynnol i’r Ombwdsmon.
“Mae’r Ymddiriedolaeth yn cydnabod y gwelliannau y mae angen eu gwneud ac wedi ymrwymo trwy gynlluniau gwella Cydweithio i Lwyddo i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel a chlinigol ddiogel i gleifion ar draws Cymru mewn partneriaeth â Byrddau Iechyd.
“Mae’r ffordd y mae’r Ymddiriedolaeth yn ymateb i ddigwyddiadau wedi ac yn datblygu ymhellach i sicrhau y gwneir pob ymdrech i ymateb i’r achosion mwyaf difrifol ac sy’n bygwth bywyd gyntaf.
“Rydym yn ystyried pob cŵyn a dderbynnir o ddifrif a gwneir gwelliannau parhaus i drefniadau cwynion mewnol i sicrhau bod unrhyw un sy’n cysylltu â Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn derbyn ymateb amserol a chynhwysfawr.”
“Byddwn yn parhau i weithio gyda’r Ombwdsmon i sicrhau bod yr holl argymhellion yn ei adroddiad yn derbyn sylw.”