Lamu yn Kenya
Mae dynes o Brydain gafodd ei chipio tra ar wyliau ar ynys yn Kenya, wedi cael ei rhyddhau yn ôl adroddiadau o Somalia.
Cafodd Judith Tebbutt ei chipio gan ddynion arfog Somali tra’n aros yng nghanolfan wyliau Lamu fis Medi’r llynedd.
Cafodd ei gŵr, David Tebbutt, ei ladd gan y dynion arfog yn ystod yr ymosodiad.
Yn ôl y morladron Somali, Bile Hussein a Mohammed Hussein, sy’n swyddogion gyda’r milisia Ahlu Sunnah Wal Jama, cafodd Judith Tebbutt ei rhyddhau heddiw ac mae disgwyl iddi hedfan i Nairobi.
Roedd yr ymosodiad ar y cwpl yn un o gyfres o ymosodiadau ar hyd arfordir Kenya. Fe aeth lluoedd Kenya i Somalia yn fuan wedi’r ymosodiadau.