Daeth miloedd o bobl i Fae Caerdydd heno i weld Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, yn croesawu enillwyr y Gamp Lawn i’r Senedd i ddathlu eu buddugoliaeth ddydd Sadwrn.

Ar risiau’r Senedd, cyflwynodd Carwyn Jones  tlws Pencampwriaeth y Chwe Gwlad  unwaith yn rhagor i hyfforddwr y tim, Warren Gatland a’r Capten, Sam Warburton.

Bu  miloedd o gefnogwyr yn gwylio’r crysau cochion ddydd Sadwrn yn curo Ffrainc o 16 pwynt i 9 gan ennill Pencampwriaeth y Chwe Gwlad â’r Gamp Lawn hefyd.

Ar ôl y dathliadau cyhoeddus, cynhaliwyd derbyniad gan Carwyn Jones a Llywydd y Cynulliad, Rosemary Butler.

Dywedodd y Prif Weinidog: “Yr unig beth sy’n bwysig heddiw yw’r Gamp Lawn.

“Mae’r chwaraewyr hyn yn arwyr sydd wedi rhoi Cymru ar y map.  Maen nhw wedi dangos cryfder, angerdd a dawn chwarae sy’n eu gwneud llawn cystal â mawrion rygbi’r gorffennol.

“Maen nhw’n dîm ifanc sydd wedi dangos aeddfedrwydd y tu hwnt i’w hoedran.  Roedden nhw’n benderfynol o gyrraedd y brig ac am eu bod wedi gwneud hynny, maen nhw wedi symud gêm Cymru i’r uchelfannau.

“Pleser o’r mwyaf yw cael cyflwyno’r tlws hwn i Warren Gatland a’r tîm a’u llongyfarch yn fawr ar yr hyn y maen nhw wedi’i wneud dros ein gwlad.”
Yn ôl Heddlu De Cymru roedd rhwng 3,000 a 5,000 o bobl wedi mynychu’r digwyddiad.