Tim Cymru yn dathlu ddydd Sadwrn Llun: Gwefan URC
Mae cannoedd o bobl wedi cyrraedd Bae Caerdydd prynhawn ma wrth i dîm rygbi Cymru gael ei wahodd i dderbyniad arbennig yn y Cynulliad.
Mae disgwyl i’r tîm gyrraedd tua 6pm ac fe fydd plant ysgol yn cyflwyno tlws y Bencampwriaeth i’r Prif Weinidog, Carwyn Jones, a fydd wedyn yn ail gyflwyno’r tlws i’r tîm ar ôl iddyn nhw gipio’r Gamp Lawn am y trydydd tro o fewn wyth mlynedd.
Fe fydd y tîm, dan arweiniad y blaenasgellwr Sam Warburton, wedyn yn dod allan i dderbyn cymeradwyaeth y bobol.
Mae disgwyl i ryw 20,000 o bobl ymgynull yn y Bae prynhawn ma.
Canmol y cefnogwyr
Yn y cyfamser, mae Heddlu De Cymru wedi canmol ymddygiad y cannoedd o filoedd o gefnogwyr a ddaeth i ganol Caerdydd ddydd Sadwrn.
Ar wahân i orfod arestio ychydig o bobol am droseddau’n ymwneud ag alcohol, doedd fawr ddim helynt wedi bod, meddai llefarydd.
Roedden nhw’n amcangyfri’ bod 250,000 o bobol yng nghanol y brifddinas yn y prynhawn, gan gynnwys miloedd o gefnogwyr o Ffrainc.