Jacqueline Wilson
Bydd Gŵyl Lenyddiaeth i Blant yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd am y tro cyntaf y flwyddyn nesaf, a’r awdures doreithiog Jacqueline Wilson yw’r cyntaf i gadarnhau ei rhan yn rhaglen yr Ŵyl.
Cynhelir Gŵyl Llenyddiaeth Plant Caerdydd rhwng dydd Mercher 20 – Sul 24 Mawrth 2013 a’r bwriad, medd y trefnwyr, yw dwyn ynghyd rhai o awduron a darlunwyr gorau byd llyfrau plant.
Mae Jacqueline Wilson yn enwog am lyfrau plant sy’n ymdrin â materion heriol megis ysgariad a phrofedigaeth, a hi oedd yr awdur a fenthyciwyd fwyaf o lyfrgelloedd Prydain dros y degawd diwethaf.
“Rwyf wrth fy modd yn derbyn gwahoddiad i fod yn rhan o’r Ŵyl gyntaf yng Nghaerdydd sydd wedi ei hanelu yn benodol at ddarllenwyr iau,” meddai Jacqueline Wilson.
“Mae llyfrau yn rhoi rhwydd hynt i blant fod yn anturiaethwyr bach, er mwyn darganfod eu hunain a’r byd ehangach, ac mae’n hynod o bwysig annog a dathlu hyn.”
‘Byd hud o chwedlau’
Trefnir yr ŵyl gan amryw o gyrff ar y cyd – Llenyddiaeth Cymru, Cyngor Caerdydd, Prifysgol Caerdydd, Amgueddfa Genedlaethol Cymru a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.
“Byddwn yn trawsnewid Caerdydd yn fyd hud o chwedlau a chymeriadau byw,” meddai Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru, Lleucu Siencyn.
Mae’r gweinidog Addysg Leighton Andrews wedi croesawu’r ŵyl fel cyfle i hyrwyddo llythrennedd ymhlith plant Caerdydd a thu hwn.
“Fel Gweinidog, un o’m blaenoriaethau yw codi safonau llythrennedd. Rhaid cefnogi unrhyw beth sydd yn ysbrydoli plant a phobl ifainc i ddatblygu cariad tuag at ddarllen ac ysgrifennu. Rwy’n dymuno pob hwyl i’r Ŵyl.”