Mae Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC, Mark Thompson wedi cyhoeddi y bydd yn gadael ei swydd yn yr hydref eleni.

Mae wedi bod yn ei swydd ers wyth mlynedd.

Fe wnaeth Mark Thompson y cyhoeddiad mewn e-bost i staff y BBC heddiw yn dilyn cyfarfod gyda chadeirydd Ymddiriedolaeth y BBC yr Arglwydd Patten.

Dywedodd ei fod yn credu y byddai’n amser addas i drosglwyddo’r awenau i olynydd a chamu i lawr fel Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC yn yr hydref, ar ôl y Gemau Olympaidd.