Y Fflam Olympaidd
Mae trefnwyr y Gemau Olympaidd wedi cyhoeddi llwybr y fflam Olympaidd heddiw, ac fe fydd yn cyrraedd uchelderau copa’r Wyddfa.

Bydd y fflam yn cael ei chario trwy’r Deyrnas Gyfunol dros gyfnod o 70 diwrnod, gan ddechrau ar ben draw Cernyw ar 19 Mai. Bydd yn cyrraedd Cymru yn Nhrefynwy ar Ddydd Gwener 25 Mai, ac wedyn yn cael ei chario ar hyd y llwybr canlynol:

Y Fenni, Casnewydd, Caerdydd, Merthyr Tudful, Penybont-ar-Ogwr, Castell Nedd, Abertawe, Llanelli, Caerfyrddin, Hwlffordd, Abergwaun, Aberteifi, Aberystwyth, Blaenau Ffestiniog, Pwllheli, Caernarfon, Bangor, Bae Colwyn,  y Rhyl a Chei Cona.

Bydd pedair tref yn cynnal dathliadau gyda’r nos i gyd-fynd ag ymweliad y fflam Olympaidd, sef Caerdydd, Abertawe, Aberystwyth a Bangor.

Ysbrydoliaeth

Bydd y fflam yn cael ei chario i ben yr Wyddfa ar 29 Mai, nid ar droed ond ar y trên bach. Mae Cyfarwyddwr Corfforaethol Cyngor Gwynedd, Trefor Jones, yn edrych ymlaen yn eiddgar at groesawu’r fflam i Wynedd

“Mi fydd y daith ddeuddydd yn gyfle heb ei debyg i ddangos y llu ac amrywiaeth o atyniadau awyr agored Gwynedd yn eu holl ogoniant.”

“Mae’r rhain yn amserau cyffrous i Wynedd, a’n gobaith ni ydi y bydd ymweliad y Fflam Olympaidd yn ysbrydoliaeth wirioneddol i’n pobl ifanc ac yn eu helpu nhw i weld fod modd iddyn nhw wireddu eu breuddwydion.”

Dywedodd y cyn athletwr Sebastian Coe, sydd nawr yn gadeirydd pwyllgor y Gemau Olympaidd yn Llundain,

“Mae’r Fflam yn symbol o’r ysbryd Olympaidd a bydd ei thaith o gwmpas y Deyrnas Unedig yn dod â chyffro’r Gemau i’n strydoedd.”

“Drwy fod pobol yn gwybod bellach pa ffordd y bydd y fflam yn teithio a phwy fydd Cludwyr y Fflam yn eu cymuned, fe allan nhw gychwyn cynllunio sut y gallen nhw ddathlu a’i gwneud hi’n ddiwrnod i’w gofio yng Ngwynedd.”