Ian Evans - wedi serennu'n dawel
Aled Price sy’n crynhoi ei deimladau am berfformiad Cymru yn erbyn y Ffrancwyr.

Roedd yn bleser bod yng nghanol Caerdydd ddydd Sadwrn – roedd y strydoedd yn fyw efo bwrlwm. Mae’n brofiad i fod yn y brif ddinas ar unrhyw ddiwrnod pan fydd Cymru’n chwarae, ond roedd yr awyrgylch yn ddigon i’ch cyffroi’n lân.

Pan fydd Cymru’n ennill, yn enwedig ennill y Gamp Lawn, does unman gwell i fod ’na Chaerdydd. Yn enwedig pan ddaw’r nos – galla’i dystio i hynny!

Efallai nawr y bydd modd anghofio’r gêm yn Auckland ac edrych tua’r dyfodol. Mae’r presennol yn hynod o gyffrous, ond mae potensial y tîm hyd yn oed yn fwy cyffrous byth.

Anodd gwylio

Cyn y gêm ro’n i’n amau na fyddai’n brofiad rhy gyfforddus i wylio’r gêm, a dyna’n union sut y teimlais. Sylweddolais fy mod i’n edrych ar y cloc trwy’r amser, ac roedd yn teimlo fel na fyddai’r 80 munud byth yn dod i ben.

Roedd hi’n gêm glos ac yn agos trwy gydol. Roedd hi’n gêm a gafodd ei dominyddu gan amddiffyn y ddau dîm. Blaenasgellwyr ochr dywyll y ddau dîm oedd y chwaraewyr amlycaf – roedd Thierry Dussatoir yn wych, fe yw ‘chwaraewr y byd’ yr IRB, ond roedd rhif 6 Cymru, Dan Lydiate, hyd yn oed yn well.

Lydiate yn serennu

Cafodd blaenasgellwr y Dreigiau ei gêm gorau yn y crys coch. Roedd Lydiate ym mhobman trwy gydol yr ornest. Tacl ar ôl tacl. Bron pob tro’r oedd chwaraewr Ffrainc wedi cael ei daclo, roedd Lydiate o amgylch ei draed. Jerome Kaino yw, efallai, rhif 6 gorau’r byd ond dyw Lydiate dim rhy bell tu ôl iddo.

Ynghyd â Dussatoir, does gen i ddim amheuaeth taw Lydiate yw’r blaen asgellwr ochr dywyll gorau yn Ewrop. Beth sydd hyd yn oed yn bwysicach i Gymru yw’r rheng ôl fel uned. Mae Lydiate yn chwarae cystal gan ei fod yng nghanol un o’r rhengoedd ôl gorau mae Cymru wedi gweld ers sbel. Rhaid iddo gael ei enwi’n chwaraewr y bencampwriaeth.

Dim ond un gêm lawn mae Sam Warburton wedi’i chwarae yn ystod y bencampwriaeth, ond prin fod Cymru wedi gweld ei eisiau. Pan mae’n holliach, mae Warburton yn un o oreuon y byd, ac mae’n hwb i’r tîm. Serch hynny rydyn ni wedi gweld bod chwaraewyr eraill yn gallu slotio mewn i’r rheng ôl ac mae’r uned dal yn hynod o effeithiol.

Mae Ryan Jones nôl i’w orau a chreodd argraff ar ôl cymryd lle Warburton ddydd Sadwrn. Rydym wedi gweld Tipuric a Shingler hefyd yn chwarae’n wych yn y rheng ôl.

Strength in depth’ yw’r dywediad Saesneg, ac mae nerth a dyfnder tîm Cymru yn hynod erbyn hyn. Esiampl berffaith o hyn yw Ian Evans.

Mae Ian Evans wedi cael 6 Gwlad gofiadwy ar ôl methu â chwarae yn y bencampwriaeth ers 2008. Mae wedi dechrau pob gêm yn dilyn anafiadau i bawb o’i flaen, ac mae wedi cymryd ei gyfle.

Serch hyn, does dim llawer o bobol yn siarad am glo’r Gweilch, ond petawn i’n dewis carfan y Llewod yfory byddai enw Evans ar fy rhestr heb os. Mae’n gweithio’n ddiflino o amgylch y cae, yn taclo, ennill pêl yn y lein, rheoli’r lein a gwneud niwsans llwyr o’i hun.

Cafodd ei bartner yn yr ail reng, Alun-Wyn Jones, gêm hynod o effeithiol hefyd. Roedd y lein yn gweithio’n dda wrth ddefnyddio opsiynau gwahanol a dwyn y bêl yn ardal y dacl gan Alun-Wyn oedd catalydd cais Alex Cuthbert.

Tactegau ar y nod

Cefais fy mhlesio o weld tactegau Cymru. Nid yw cicio di-ri yn hynod o gyffrous i’w wylio ond dyma oedd y tactegau cywir ar gyfer y gêm yma. Roedd rhaid cyflawni’r tactegau yn iawn cofiwch – dy’ch chi ddim eisiau annog tri ôl Ffrainc i redeg nôl atoch, a ro’n i’n falch o weld Priestland yn llwyddo i wneud hyn.

Yn fy marn i, cafodd Priestland ei gêm orau o’r bencampwriaeth ac roedd Ffrainc, yn enwedig yn yr hanner cyntaf, yn ei gweld hi’n anodd chwarae rygbi yn hanner Cymru. Ar brydiau dros y blynyddoedd diwethaf mae Cymru wedi bod yn eithaf diniwed yn dactegol ond ro’n i’n meddwl bod Gatland wedi’i chael hi berffaith bnawn Sadwrn.

Pencampwriaeth hynod o lwyddiannus felly ac mae potensial i’r garfan yma fod yn un arbennig iawn. Rhaid nawr targedu buddugoliaethau cyson yn erbyn timau hemisffer y de, yng Nghaerdydd a hefyd bant o gartre.

Mae taith yn yr haf i Awstralia i chwarae tair gêm, a rhaid targedu ennill o leiaf un o’r rhain. Efallai am y tro cyntaf yn fy mywyd, galla’i edrych ymlaen at chwarae tîm o hemisffer y de bant o gartref gan deimlo’n eithaf hyderus. Rwy’n methu aros!