Methodd tim merched Cymru ag ailadrodd llwyddiant y dynion wrth iddyn nhw gael crasfa gan dîm merched Ffrainc ddoe.

Collodd Cymru o 0-31 ar Barc Pandy, Cross Keys, gyda Ffrainc yn sgorio pum cais.

Ffrainc a reolodd yr hanner cyntaf a doedd y sgôr o 0-12 ar yr hanner ddim yn adlewyrchu eu goruchafiaeth dros ferched Cymru.

Yn yr ail hanner sgoriodd Ffrainc dri chais, ac un trawiadol iawn ar y diwedd tra roedd Cymru un ferch yn brin ar ôl i Sian Williams dderbyn carden felen.

Rhuthrodd Elodie Portaries am y llinell gais gyda hanner pac Cymru ar ei chefn, a methwyd â’i hatal. Roedd yn arwydd clir o bendantrwydd Ffrainc i ennill a chipio’r ail safle yn nhabl y Chwe Gwlad.

Gorffennodd Cymru’n bedwerydd yn y tabl, uwchben yr Eidal a’r Alban. Lloegr oedd y meistri eleni eto gan iddyn nhw ennill pob gêm a chipio’r Gamp Lawn. Dyma’r seithfed tro yn olynol i’r Saeson ennill Pencampwriaeth Chwe Gwlad y merched.