Sam Warburton
Mae Sam Warburton wedi dweud nad yw’r anaf a orfododd iddo adael y cae yn ystod y gêm yn erbyn Ffrainc yn rhy ddifrifol wedi’r cyfan.

Roedd gofid na fyddai’r capten yn medru chwarae am weddill y tymor, ac y byddai’n colli taith Cymru i Awstralia ym mis Mehefin, ond yn ei golofn yn y Daily Telegraph fe ddywedodd Sam Warburton nad yw’r anaf i’w ysgwydd dde yn rhy ddifrifol.

Mae tîm meddygol Cymru o’r farn ar hyn o bryd mai anaf i’r nerfau a ddioddefodd Warburton ac na fydd angen llawdriniaeth arno. Datgelodd Warburton iddo fynnu cael sgan ar yr ysgwydd yn syth ar ôl y gêm fel ei fod yn medru dathlu gyda’i gyd-chwaraewyr gan wybod a oedd wedi gwneud niwed difrifol i’w ysgwydd ai peidio.

Mae Gleision Caerdydd yn chwarae yn y cwpan Heineken yn erbyn Leinster ar y 7ed o Ebrill, ac mae’n rhy gynnar i ddweud eto a fydd y blaenasgellwr yn ffit i chwarae yn y gêm fawr honno.