Fe fydd cyfle i gefnogwyr rygbi ddathlu eto heddiw, wrth i dîm rygbi Cymru gael ei wahodd i dderbyniad arbennig yn y Cynulliad ym Mae Caerdydd.

Fe fydd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, yn ail gyflwyno tlws y Bencampwriaeth i’r tîm ar ôl iddyn nhw gipio’r Gamp Lawn am y trydydd tro o fewn wyth mlynedd.

Fe fydd y tîm, dan arweiniad y blaenasgellwr Sam Warburton, wedyn yn dod allan i dderbyn cymeradwyaeth y bobol.

Canmol y cefnogwyr

Yn y cyfamser, mae Heddlu De Cymru wedi canmol ymddygiad y cannoedd o filoedd o gefnogwyr a ddaeth i ganol Caerdydd ddydd Sadwrn.

Ar wahân i orfod arestio ychydig o bobol am droseddau’n ymwneud ag alcohol, doedd fawr ddim helynt wedi bod, meddai llefarydd.

Roedden nhw’n amcangyfri’ bod 250,000 o bobol yng nghanol y brifddinas yn y prynhawn, gan gynnwys miloedd o gefnogwyr o Ffrainc.