Caerdydd 0-0 Burnley

Methodd Caerdydd a manteisio ar gyfle i ddychwelyd i’r safleoedd ail gyfle yn y Bencampwriaeth brynhawn Sul wrth i’r gêm rhyngddynt a Burnley yn Stadiwm Dinas Caerdydd orffen yn ddi sgôr.

Yr ymwelwyr a gafodd y gorau o’r cyfleoedd yn yr hanner cyntaf ond llwyddodd David Marshall i atal ymdrechion Ross Wallace, Martin Paterson, a Junior Stanislas.

Daeth cyfle gorau’r Adar Gleision yn y 45 munud cyntaf i Joe Mason ddeg munud cyn yr egwyl ond llwyddodd gôl-geidwad Burnley, Lee Grant, i arbed.

Roedd y Cymry’n well wedi’r egwyl a daeth Mason yn agos eto wedi 65 munud ond cafodd Grant y gorau arno unwaith eto.

Methodd Aron Gunnarsson gyfle gyda’i ben wedi hynny ond daeth y cyfle gorau un i’r eilydd Robert Earnshaw yn y pumed munud o amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm. Ond penio heibio’r postyn oedd ei hanes yntau hefyd wrth iddi orffen yn ddi sgôr.

Mae’r gêm gyfartal yn golygu fod yr Adar Gleision yn codi o nawfed i wythfed yn y tabl ond yn methu’r cyfle i ddychwelyd i’r safleoedd ail gyfle, byddai buddugoliaeth wedi eu codi i’r pedwerydd safle.