Daethpwyd o hyd i gorff yn yr Afon Tawe ger Llansamlet ddoe.
Cafodd y Gwasanaethau Brys eu galw i’r afon tua 8.45am ddydd Iau, 3 Chwefror.
Aethpwyd a corff y dyn 71 oed i Ysbyty Singleton. Roedd eisoes wedi bod ar goll.
Dyw’r Heddlu ddim yn trin ei farwolaeth fel un amheus ar hyn o bryd. Fe fydd y crwner yn cynnal ymchwiliad, medden nhw.