Logo Gwir Gymru
Mae Gwir Gymru wedi ymddiheuro ar ôl cael eu cyhuddo o gyhoeddi sylwadau homoffobig ar eu cyfrif Twitter.

Roedd yr ymgyrch ‘Na’ de facto wedi defnyddio’r term “bum chums” wrth ddisgrifio gweinidogion Plaid Cymru.

“How did LA get league tables passed his PC bum chums. The thought of any competition must have PC AMs choking on their cornflakes?!?!” meddai’r neges.

Cynghorydd o Gaerffili, Jonathan Wilson, oedd yn gyfrifol am y neges. Ychwanegodd ei fod ef yn hoyw ac nad oedd yn gwybod bod y term yn un sarhaus.

Dywedodd wrth bapur newydd y Western Mail mai “dipyn o hwyl” oedd y neges.

“Dyw anwybodaeth ddim yn esgus am ddefnyddio’r fath ieithwedd. Fel ymgyrchydd gwleidyddol dylai Mr Wilson gwybod yn well,” meddai Andrew White wrth Golwg 360.

“Rydyn ni’n falch ei fod wedi ymddiheuro ond yn hynod o siomedig ei fod yn disgrifio’r peth fel bach o hwyl.

“Bob dydd mae’r fath ieithwedd yn tanseilio hyder ein pobl ifanc mewn ysgolion – dyna chi fater pwysig!”

Fe fydd y refferendwm ar ragor o bwerau i’r Cynulliad yn cael ei gynnar ar 3 Mawrth eleni.