Mae Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones wedi dymuno pob lwc i dîm rygbi Cymru cyn eu brwydr am y Gamp Lawn yn erbyn Ffrainc heddiw.

“Hoffwn i ddymuno pob lwc i’r bois ar gyfer y gêm ddydd Sadwrn. Rwy’n gwybod bod ganddyn nhw’r ddawn, yr awydd a’r dygnwch i ennill,” meddai.

“Ry’n ni mor agos at ennill trydedd Camp Lawn mewn wyth mlynedd a dydw i ddim yn meddwl ein bod ni wedi gweld y gorau o’r tîm hwn eto.

“Dewch mlaen, bois, gwnewch y genedl yn falch ohonoch chi.”