Aberystwyth v Afan Lido (Heno – 7.30 p.m.)
Heno fydd y pumed tro i Aberystwyth herio Afan Lido’r tymor hwn.
Ac o ran y canlyniadau hyd yma, maen nhw i gyd yn gyfartal, felly ni fydd llawer o wahaniaeth rhwng y ddau dîm.
Ar ôl i’r ddau dîm dderbyn sgôr cyfartal yn eu gemau diwethaf, bydd Afan Lido yn brwydro i ddringo i ran ucha’r tabl gydag Aberystwyth.
Prestatyn v Bangor (Heno – 7.30 p.m.)
Ar ôl colli dwy gêm gartref, fe fydd Bangor yn obeithiol am ganlyniad gwell wrth iddyn nhw deithio i Brestatyn.
Pe bai Bangor yn ennill y pum gêm sy’n weddill o’r tymor, fe fyddan nhw’n cipio teitl Uwch Gyngrhair Cymru.
Llanelli v Bala (Sadwrn – 1.00 p.m.)
Prynhawn yfory fe fydd Llanelli am ddial ar y Bala wedi iddyn nhw golli I’r tîm o’r gogledd yn rowndiau chwarteri yng Cwpan Cymru ar Faes Tegid.
Caerfyrddin v Drenewydd (Sadwrn- 1.30 p.m.)
Gyda 20 o bwyntiau ag un safle o’r gwaelod, bydd Caerfyrddin yn obeithiol am bwynt neu dri yn erbyn Drenewydd sydd ar waelod y dabl.
Castell Nedd v Y Seintiau Newydd (Sadwrn – 2.30 p.m.)
Yr Eryrod fydd yn croesawu’r Seintiau Newydd yfory sydd ar frig Uwch Gyngrhair Cymru.
Tri phwynt sy’n gwahanu’r ddau dîm, felly gêm bwysig i’r naill ochr.
Gyda Castell Nedd wedi ennill pedair gêm yn olynnol a’r Seintiau Newydd wedi ennill chwe gêm yn olynnol, gallwn fentro mai dyma’r un o’r brif gemau y tymor hwn i’w wylio.
Port Talbot v Airbus UK (Sul – 2.30 p.m.)
Gyda’r ddau dîm yn rhan isaf Uwch Gyngrhair Cymru, gallwn ddychmygu y bydd hi’n frwydr i hwythau sicrhau eu safleoedd am y flwyddyn nesaf.
Nid yw Afan Lido wedi bod ar rediad da yn ddiweddar wedi colli dwy gêm a derbyn dair gêm gyfartal, lle mae Airbus Uk wedi cipio canlyniadau gymysg.
Er bod y ddau dîm nesaf at ei gilydd yn nhabl Uwch Gyngrhair Cymru, dwy bwynt sy’n ei gwahanu.