Bydd tîm Cymru dan 20 yn chwarae o flaen torf lawn arall heno ym Mae Colwyn pan fyddan nhw’n herio Ffrainc.

Mae Cymru wedi chwarae eu tair gêm gartref ar Barc Eirias o flaen torf lawn o 6,000 bob tro.

 Dywedodd hyfforddwr Cymru, Danny Wilson: “Mae’r torfeydd wedi bod yn anhygoel yng ngogledd Cymru a gallwch chi ddim tanbrisio faint o hwb yw e i’r tîm gael cefnogaeth groch gan y cefnogwyr cartref. Rydym ni wrth ein boddau gyda’r gefnogaeth a ddangoswyd yn Eirias a hoffwn ni roi perfformiad da heno i ddweud diolch.”

Mae Danny Wilson wedi gorfod gwneud sawl newid i’r tîm gurodd yr Eidal mewn gêm galed a chorfforol nos Wener ddiwethaf. Daw Kirby Myhill yn ôl i fod yn fachwr a chapten ar y tîm ar ôl iddo chwarae dros y Sgarlets yn Northampton y penwythnos diwethaf.

Dyma’r tîm llawn, y gêm i ddechrau am 7:35 heno (nos Wener) ac yn fyw ar S4C.

Cymru dan 20 yn erbyn Ffrainc dan 20

15 Ross Jones (Gweilch)
14 Iolo Evans (Sgarlets)
13 Luke Williams (Clwb Rygbi Penybont)
12 Owen Williams (Sgarlets)
11 Luke Morgan (Gweilch)
10 Sam Davies (Gweilch)
9 Jonathan Evans (Dreigiau)
1 Rob Evans (Sgarlets)
2 Kirby Myhill (Captain) (Sgarlets)
3 Samson Lee (Sgarlets)
4 Jack Jones (Gweilch)
5 Matthew Screech (Gleision)
6 Ieuan Jones (Dreigiau)
8 Dan Baker (Gweilch)
7 Dan Thomas (Sgarlets)
Eilyddion
16 Darran Harris (Gleision)
17 Thomas Davies (Gleision)
18 WillGriff John (Gleision)
19 Carwyn Jones (Academi’r Sgarlets)
20 Reuben Tucker (Gleision)
21 Rhodri Williams (Scarlets)
22 Jordan Williams (Scarlets)
23 Cory Allen (Gleision)