Ar ôl colli o dair i ddim yn Hull nos Fawrth, fe fydd Caerdydd am daro’n ôl yn erbyn Burnley er mwyn cyrraedd y gemau ail-chwarae.

Mae Caerdydd yn y seithfed safle ac yn rhannu’r un nifer o bwyntiau â Hull, sef 57.  Mae Burnley yn y 14eg safle yn y Bencampwriaeth.

Wedi llwyddo i gael gêm gyfartal yn erbyn Crystal Palace y penwythnos diwethaf, fe fydd Burnley yn herio Caerdydd i’r eithaf i roi fymryn o obaith iddyn nhw gyrraedd y gemau ail-chwarae.

Gyda deg gêm i fynd a’r gemau ail-gyfle yn y fantol, bydd bob gêm yn bwysig i Gaerdydd gan gofio wrth gwrs nad ydyn nhw’n bell o Middlesbrough, sy’n bedwaredd yn nhabl y Bencampwriaeth.