Helen Mary Jones
Mae Cadeirydd Plaid Cymru eisiau gweld Elin Jones yn dod yn Ddirprwy Arweinydd.

Ac mae Helen Mary Jones hefyd yn credu bod y polisi o ffafrio merched wedi llwyddo, gyda’r Arweinydd yn y Cynulliad, yr Arweinydd yn Senedd Ewrop, y Cadeirydd a’r Prif Weithredwr i gyd yn fenywod.

Mae hi hefyd yn tanlinellu’r ffaith fod yr uwch reolwyr bron i gyd yn dod o’r de, a bod hynny yn ddipyn o newid byd.

Bu swydd y Dirprwy Arweinydd yn destun dadlau yn ystod yr ymgyrch, gydag Elin Jones yn addo’r job i Simon Thomas petae hi’n ennill, a Dafydd Elis-Thomas yn ymateb i hynny trwy ddweud bod angen i’r Dirprwy ddod o begwn daearyddol a syniadaethol gwahanol i’r Arweinydd.

Er yn cydnabod mai cyfrifoldeb Aelodau Cynulliad Plaid Cymru fydd dewis Dirprwy, mae Helen Mary Jones yn ffafrio’r ferch ddaeth yn ail i Leanne Wood yn y ras i olynu Ieuan Wyn Jones.

“Y grŵp yn y Cynulliad fydd yn penderfynu, ond yn bersonol fyddwn i’n hoffi gweld Elin yn gwneud e,” meddai Helen Mary Jones, sy’n gyn-Aelod Cynulliad a bellach yn Gadeirydd y Blaid.

Mae Helen Mary Jones hefyd yn rhagweld y bydd Dafydd Elis-Thomas, a ddaeth yn drydydd ddoe, yn cael swydd o fewn Cabinet cysgodol Leanne Wood.

“Does dim dwywaith fod Dafydd ymhlith y gwleidyddion mwyaf talentog yng Nghymru, nid jest ym Mhlaid Cymru,” meddai Helen Mary Jones.

 Merched o’r De yn ben ar y Blaid

 Elfyn Llwyd – yr Arweinydd yn San Steffan – yw’r unig ddyn ar haenen reolaethol ucha’r Blaid erbyn hyn.

Jill Evans yw’r Llywydd a’r Arweinydd Ewropeaidd, Rhuannedd Richards yw’r Prif Weithredwr a rŵan Leanne Wood yw’r ddynes gynta’ erioed i Arwain Plaid Cymru.

Dyma bennod newydd yn hanes y Blaid ar sawl lefel, yn ôl y Cadeirydd Helen Mary Jones.

“Mae’n newid mawr,” meddai.

“Os fysen ni’n mynd nôl deng mlynedd roedd Laura McAllister yn sgwennu llyfr ynglŷn â hanes y Blaid.

“Ac fe wnaeth hi ein disgrifio ni fel ‘the party of males’. Achos ar y pryd hynny doedden ni erioed wedi cael menyw mewn rôl arweinyddol bron byth – roedd Siân Edwards wedi bod yn Gadeirydd am gyfnod byr, dyna i gyd.

“Mae’n dangos bod pethau wedi newid tu fewn i’r Blaid, ac mae hefyd yn ddiddorol bod bob un ohonon ni yn dod o’r De.”

Ffafrio merched sydd i gyfrif am newid delwedd y Blaid, yn ôl Helen Mary Jones.

“Os ydych chi’n mynd yn ôl i 1999 pan wanethon ni, am y tro cyntaf, ddefnyddio mesurau arbennig i gael menywod i ddod trwyddo fel Aelodau’r Cynulliad, y syniad oedd i newid y ddelwedd o beth yw gwleidydd tu fewn i’r Blaid.

“Achos ar y pryd, os fysa chi wedi gofyn i aelodau’r Blaid i gau eu llygaid a meddwl am wleidydd, fydden nhw wedi gweld Dafydd Wigley, [neu] Gwynfor [Evans], ond doedd yna ddim menyw yn y llun yna.

“A rhan o’r syniad o greu cyfleon arbennig i fenywod oedd newid y ddelwedd o fel mae pobol yn gweld beth yw gwleidydd tu fewn i’r Blaid.

“Ac mae’n ymddangos bod hynny wedi gweithio.”

 Dynes denu fôts?

 O gofio bod ystadegau ar gyfer y di-waith yn dangos mai merched yw’r mwyafrif llethol yn y cyw dôl, a fydd cael dynes wrth y llyw o fantais wrth geisio denu fôts?

“Dw i’n credu bod o’n gallu bod o help,” meddai Helen Mary Jones.

“Yn enwedig rhywun fel Leanne sydd yn byw yn yr un ardal yn y Cymoedd lle gafodd hi ei magu, a dal yn byw yn agos at ei chymdogion ac yn ran naturiol o’i chymuned. Mae hi’n berson y mae pobol yn mynd i deimlo ei bod hi wir yn deall yr her sy’n wynebu menywod a phawb yng Nghymru yn y dyddiau anodd economaidd sydd ohoni.”