Mae cyn-wythwr Cymru Mervyn Davies wedi marw yn 65 ar ôl brwydr yn erbyn canser.
Chwareodd i Gymry Llundain, Abertawe, Cymru a’r Llewod yn ystod cyfnod disglair y 1970au, ac roedd yn cael ei ystyried yn un o wythwyr gorau Cymru erioed.
Diolch i’w allu i osgoi taclwyr derbyniodd y glasenw ‘Merve the Swerve’, ac mae’n cael ei ystyried yn wythwr a oedd o flaen ei amser gan ei fod yn fedrus wrth drin y bêl.
“Roedd Mervyn yn ffrind mawr i fi a rwyf wedi cael sioc mawr o glywed y newyddion trist y bore ‘ma,” meddai Gerald Davies, un o gyd-chwaraewyr Mervyn Davies yn nhîm Cymru a’r Llewod y 1970au.
Daeth gyrfa chwarae Mervyn Davies i ben yn sydyn yn 1976 ar ôl iddo gael llid yr ymennydd tra’n chwarae mewn gêm gwpan i Abertawe. Ers gorffen chwarae roedd yn llais cyfarwydd i ddilynwyr rygbi Cymru, ac yn y blynyddoedd diwethaf wedi body n gyfrannwr cyson ar raglenni trafod chwaraeon gorsaf Real Radio.
Munud o dawelwch
Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cyhoeddi y bydd munud o dawelwch i gofio am Mervyn Davies cyn gêm Cymru a Ffrainc yfory, ac mae baneri wedi eu hanner gostwng yn Stadiwm y Mileniwm heddiw.
Dywedodd Llywydd Undeb Rygbi Cymru, Dennis Gethin, “Rydym ni wedi colli chwaraewr mawr oedd yn llysgennad rhagorol dros y gêm ac yn ŵr bonheddig go iawn”.