Leanne Wood ar ôl cael ei hethol ddoe
Fydd Plaid Cymru ddim yn ceisio mynd i glymblaid gyda Llafur, os na fydd y Prif Weinidog yn dangos llawer mwy o uchelgais o ran datganoli i Gymru.
Dyna neges tymor byr arweinydd newydd Plaid Cymru wrth iddi ddechrau ar ei diwrnod cynta’ yn y swydd.
Mae hefyd wedi galw am gonfensiwn o fewn Cymru i drafod yr ymateb i chwalfa bosib y Deyrnas Unedig os bydd yr Alban yn pleidleisio am annibyniaeth.
Grwpiau gwaith
Cam cynta’ Leanne Wood fydd sefydlu grwpiau gwaith i fynd i’r afael “â rhai o’r problemau mawr y mae Cymru’n eu hwynebu”, gan ganolbwyntio ar yr economi a bod yn gynaliadwy.
Mewn cyfweliad radio, fe ddywedodd ei bod am weithio gydag aelodaeth Pladi Cymru gan “wneud defnydd o’r bobol fwya’ talentog” o fewn y Blaid.
Fe fydd yn mynd â’r Blaid i’r chwith, meddai, ond mae hynny’n unol â greddf a dymuniad yr aelodau cyffredin.
Dim dyddiad annibyniaeth
Dyw annibyniaeth ddim yn darged tymor byr, meddai – ond mae o blaid datganoli rhai hawliau trethu ar unwaith a rhai yn nes ymlaen.
Mae angen cryfhau’r economi’n gynta’, cyn mynd yr holl ffordd, ond doedd hi ddim yn fodlon rhoi dyddiad ar gyfer annibyniaeth.
Dim clymblaid ar hyn o bryd
Wrth ateb cwestiwn am fynd i glymblaid gyda’r Llywodraeth Lafur, sydd heb fwyafrif clir yn y Cynulliad, fe ddywedodd nad oedd hynny’n flaenoriaeth.
Fe fyddai’n ystyried hynny pe bai’r Prif Weinidog, Carwyn Jones, yn dod ati gyda “gyts” i alw am ddatganoli’r drefn gyfreithiol, grym tros ddatblygiadau ynni mawr a pholisïau eraill fel achub ffatrïoedd Remploy.
“Ond ar hyn o bryd,” meddai, “yr hyn ydw i’n ei weld ydi Prif Weinidog sy’n brin iawn o uchelgais.”
Roedd rheolwr ei hymgyrch i fod yn arweinydd y Blaid, yr AS Jonathan Edwards, eisoes wedi rhybuddio y byddai Leanne Wood yn mynd ati i herio ac ymosod ar y Blaid Lafur.