Bydd Sam Warburton yn dychwelyd i arwain ei wlad
Mae Cymru’n ffefrynnau clir i sicrhau trydydd Camp Lawn mewn wyth mlynedd yfory, medd y bwcis.
Maen nhw’n ofni gorfod talu symiau mawr o arian i bobol wnaeth fetio ar yr ods hael ar ddechrau’r tymor, pan oedd y Cymry yn 6/1 i guro pob un gêm ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni.
Eisoes wedi colli i Loegr a chael gêm gyfartal yn erbyn y Gwyddelod, mae’r cwmnïau betio yn ofni na fydd gan y Ffrancwyr y stumog i roi her o’r iawn ryw i Gymru yn Stadiwm y Mileniwm yfory.
Caiff y Cymry ods o 4/9 i guro eu pumed gêm yn olynol.
“Ar ôl gorfod talu symiau enfawr o bres yn [rasys ceffylau] Cheltenham yr wythnos hon, mi fydden ni wir yn gwerthfawrogi ffafr gan Ffrainc,” meddai Jessica Bridge o gwmni betio Ladbrokes.
“Ond mae’r Cymry wedi bod yn feistri corn ar y gystadleuaeth ac nid ydym yn disgwyl iddyn nhw faglu yn ystod y cymal olaf.”