Dreigiau 18–14 Gleision

Sicrhaodd cais hwyr Tonderai Chavhanga fuddugoliaeth i’r Dreigiau yn erbyn y Gleision ar Rodney Parade nos Iau yn y RaboDirect Pro12. Y tîm cartref a oedd ar y blaen ar yr egwyl ond brwydrodd y Gleision yn ôl ac roedd angen cais hwyr gan yr asgellwr o Dde Affrica ar y Dreigiau i ddwyn y pwyntiau.

Er i droed Dan Parks roi’r Gleision ar y blaen yn gynnar fe darodd y Dreigiau yn ôl yn syth gyda chais i Jevon Groves. Manteisiodd clo’r Dreigiau ar bas erchyll blaenasgellwr y Gleision, Mike Paterson, i dirio cais rhwydd.

Llwyddodd Lewis Robling gyda’r trosiad cyn ychwanegu cic gosb hefyd i roi mantais o 10-3 i’r Dreigiau wedi dim ond chwarter awr.

Roedd y Gleision yn ôl ynddi’n fuan wedyn wrth i Tom James sgorio cais cyntaf yr ymwelwyr. Rhwygodd Richie Rees y bêl oddi ar Anitele’a Tuilagi cyn pasio i James ar yr asgell a rhedodd yntau’r holl ffordd at y llinell.

Methodd Parks y trosiad ond dim ond dau bwynt oedd yn gwahanu’r timau ar yr egwyl.

Cyfnewidiodd y ddau faswr gic gosb yr un yn neg munud cyntaf yr ail hanner ond roedd hi’n agos o hyd hanner ffordd trwy’r ail hanner.

Yna, gydag ychydig dros ddeg munud yn weddill fe roddodd yr eilydd gefnwr, Ben Blair, y Gleision ar y blaen gyda chic gosb.

Ac roedd hi’n edrych fod y tîm o Gaerdydd am ddwyn y pwyntiau cyn i Chavhanga newid popeth wyth munud o’r diwedd. Cais cic a chwrs yr asgellwr oedd uchafbwynt y noson ac roedd yn llawn haeddu ennill gêm ddigon diflas.

Nid yw’r canlyniad yn newid safle’r un o’r ddau dîm y nhabl y Pro12. Mae’r Dreigiau yn aros yn nawfed ond yn cau’r bwlch ar Treviso tra mae’r Gleision yn methu’r cyfle i neidio dros y Scarlets ac yn aros yn seithfed.