Y Tri Ymgeisydd
Anna Glyn sy’n blogio’n fyw i Golwg 360 o ganol y cyffro yng Ngwesty Dewi Sant, Caerdydd

17.00 Diwedd ar y dyfalu, diwedd ar yr ymgyrchu, ac mae pawb yn ei throi hi am adre. Ac ymlaen a Leanne Wood nawr i baratoi ei haraith fawreddog ar gyfer Cynhadledd Wanwyn y blaid penwythnos nesaf, lle bydd hi’n annerch aelodau Plaid Cymru fel eu harweinydd newydd.

15.54 Dafydd Elis Thomas yn dweud mai “un uchelgais ar ol gen i yw mod i eisiau bod yn weinidog yn Llywodraeth Cymru, dw i eisiau bod yn weinidog yn llywodraeth Leanne Wood’ – ac yn cofleidio Leanne Wood.

Helen Mary yn cloi yr areithiau gan ddweud bod heddiw ddim wedi bod yn benderfyniad hawdd i’r aelodau. “Dechrau newydd i’r blaid heddiw, dechrau newydd i Gymru heddiw. Let’s hear it for Leanne,” meddai.

15.51 Leanne Wood wedi gwneud araith fer iawn yn sil ei buddugoliaeth, y dyrfa yn curo dwylo a sefyll ar eu traed i groesawu eu harweinydd newydd.

Elin Jones wedi llongyfarch Leanne Wood, Dafydd Elis Thomas yn dweud bod y blaid wedi “ethol ffeminydd o’r adain chwith.”

15.41 Leanne Wood wedi ennill.

15.41 Dafydd Elis Thomas allan yn y rownd gyntaf: Dafydd El- 1278, Elin- 1884, Leanne- 2879. Dwy ar ol felly – a chystadlaeuaeth am yr ail bleidlais.

15.40 Rhuanedd Richards yn siarad nawr – hi fydd yn gwneud y cyhoeddiad.

15.39 Y tri ymgeisydd, Elin Jones, Dafydd Elis Thomas a Leanne Wood newydd ddod i flaen yr ystafell.

15.38 Y gynulleidfa ar eu traed wrth i Ieuan Wyn Jones gloi ei araith ac yn clapio’n frwd.

15.35 Ieuan Wyn Jones yn dweud bod “heddiw yn ddiwrnod arbennig iawn yn hanes Plaid Cymru.” Dweud bod arwain y blaid yn “swydd go arbennig.” Dweud bod heddiw’n gyfle i ethol nid yn unig arweinydd y blaid, ond prif weinidog i Gymru.

15.34 Ieaun Wyn Jones yn dechrau siarad nawr, yn siarad am y tro olaf fel arweinydd Plaid Cymru.

15.33 Helen Mary yn dweud ei bod hi’n falch bod yr ymgyrch wedi bod yn un agored. ‘Edrych ymlaen at y camau nesaf.’ Ac yn diolch i’r arweinydd Ieuan Wyn Jones – sy’n denu clap gan y gynulleidfa

15.31 Helen Mary Jones yn siarad. Yn diolch i’r staff am gyfri y pledleisiau ac yn diolch i’r Prif Weithredwr

15.29 Y rhai fu’n cyfri newydd gerdded i mewn i’r ystafell a Helen Mary Jones wedi gofyn i bawb gymryd sedd.

15.26 Rhuanedd Richards, Prif Weithredwr y Blaid yn ystafell y cyhoeddiad – cyhoeddiad ar fin dod felly.

15.19 Prawf sain newydd gael ei wneud ar y meic – y cyhoeddiad yn agosau. Ieuan Wyn Jones fydd yn siarad gyntaf yn ol pob son – a Rhuanedd Richards, Prif Weithredwr y Blaid, yn gwneud y cyhoeddiad wedyn.

15.18 Sibrydion cryf nad oes yr un o’r tri ymgeisydd wedi ennill dros 50% o’r bleidlais yn y rownd gyntaf, ac y bydd hi’n mynd i’r ail bleidlais – gyda’r ras wedyn rhwng dau. Yn ol un ffynhonnell mae pentwr pleidleisiau Leanne yn edrych yn addawol ar hyn o bryd.


Y dyrfa ddisgwylgar...
15.16
Disgwyl cyhoeddiad mewn 10 munud erbyn hyn, ac mae’r ystafell yn llenwi.

15.13 Mae Leanne Wood a Dafydd Elis Thomas newydd fynd i mewn i’r ystafell gyfri. Mwy a mwy o bobl yn ymgynull yn yr ystafell arall, lle y bydd y cyhoeddiad.

15.06 Ar ol y sibrydion ei bod hi’n y cyffuniau, Leanne Wood wedi ymddangos yn ystafell y cyhoeddiad, yn gwisgo ffrog goch a siaced frown, a gwen digon nerfus.

15.01 Aelodau Cymdeithas yr Iaith wedi cyrraedd – Menna Machreth yn eu plith. Mae nhw yn gefnogol iawn i ymgyrch Leanne Wood.


Paratoi'r camerau...
Y camerau teledu yn cael eu gosod nawr – awyrgylch disgwylgar iawn.

14.52 Son nawr y gallai’r cyhoeddiad cyntaf ddigwydd o fewn 20 munud…

14.49 Y gerddoriaeth gefndir yn y stafell lle y bydd y cyhoeddiad – un o ganeuon Stevie Wonder: ‘Signed, Sealed, Delivered, I’m yours!’

14.46 Ieuan Wyn Jones wedi cyrraedd – y dyn sydd wedi arwain Plaid Cymru am dros ddegawd, ond sy’n paratoi at drosglwyddo’r awenau i’r arweinydd newydd y prynhawn yma. Mae wrthi’n siarad gyda newyddiadurwyr nawr, edrych yn ddigon hamddenol.

14.38 Gareth Llewellyn o dim ymgyrchu Leanne Wood yn cario’i gamera – gobeithio cael llun buddugoliaethus y prynhawn yma?

14.36 Fe fydd hi yn ddiddorol cael gwybod pa etholaethau sydd wedi pledleisio ar gyfer yr ymgeiswyr. Mae yna gynnydd wedi bod yn nifer yr aelodau – mwy nag ugain y cant, a’r cynnydd mwyaf yn ol bob son yng Ngheredigion, etholaeth Elin Jones. Mae son hefyd bod rhai etholaethau oedd yn gefnogol i ymgyrch Simon Thomas yn wreiddiol wedi troi at Dafydd Elis-Thomas, wedi i Simon gamu o’r ras a rhoi ei gefnogaeth i Elin Jones.

14.32 Tim ymgyrch Leanne Wood newydd gerdded i mewn. Mae’n edrych yn debygol bod cyhoeddiad ar y gorwel, ond does dim arwydd swyddogol o hyn eto.

14.30 Mae Bethan Jenkins AC newydd gyrraedd – cefnogwraig frwd i ymgrych Leanne Wood.

14.28 Son bod Elin Jones wedi cyrraedd erbyn hyn… Sy’n cwblhau trindod yr ymgeiswyr: Dafydd Elis-Thomas, Leanne Wood ac Elin Jones.


Dafydd Elis Thomas

14.15 Mae Dafydd Elis-Thomas newydd gyrraedd y Gwesty – yn gwisgo siwt, yn edrych yn hamddenol iawn, ac yn sgwrsio gyda’r cyn-AC Owen John Thomas. Mae son bod Leanne Wood yn y cyffuniau hefyd. Dim golwg o Elin Jones eto…

14.04 Does dal ddim son ynglyn a faint o aelodau sydd wedi pledleisio yn y ras am arweinyddiaeth Plaid Cymru – ond mae’r disgwyliadau’n uchel ar ol ymgyrch lwyddiannus i ddenu dros 1,500 o aelodau newydd i’r blaid erbyn diwedd mis Ionawra, gyda’r addewid y cai pob un oedd yn ymaelodi cyn 26 Ionawr fwrw pleidlais am yn y ras am yr arweinydd newydd.

13.47 Mae mwy o brysurdeb i’w weld yn ystafell y cyhoeddiad erbyn hyn, gyda gwleidyddion ac aelodau’r wasg yn dechrau tyrru i mewn – y son diweddaraf yw y gallai’r cyhoeddiad ddod tua 3pm.

Ym mis Chwefror fe gafwyd hystings ar draws Cymru. Dyma oedd cyfle y tri ymgeisydd i osod eu stondin. Annibyniaeth oedd un o’r pynciau mawr yn ol bob son. Disgrifiad un person o’r tri ymgeisydd ar ol eu gwylio yn yr hystings oedd ‘hogan ysgol, boring a thrahaus’. Dw i’n siwr bod yn bosib i chi ddyfalu pa ddisgrifiad oedd yn berthnasol i pa wleidydd! Fe gafwyd hystings cyhoeddus yn yr union westy yma – Gwesty Dewi Sant. Mi oedd hwn yn gyfle i’r wasg ac i’r cyhoedd fynychu. I weld mwy am fy argraffiadau i am y noson darllenwch yma: Hystings Plaid Cymru.

Yng nghanol yr ymgyrchu dros yr wythnosau diwethaf, mae llawer o sylw wedi cael ei roi i argraffiadau’r bwcis o’r ras am arweinyddiaeth Plaid Cymru. Wrth siarad gyda Golwg 360 ddoe, roedd cwmni betio Paddy Power dan yr argraff mai “trwch blewyn” oedd ynddi.
“Elin Jones yw’r bet poblogaidd gyda’r punters,” meddai Paddy Power. “Yn ôl y betio, dylai Elin Jones fynd â hi o drwch blewyn, ond mae’n llawer rhy agos i ddweud gyda sicrwydd.” Caeodd y bwcis gydag Elin Jones yn dal ar y brig, gydag ods o 13/10, tra bod Leanne Wood yn ail, gydag ods o 7/5, a Dafydd Elis Thomas yn drydydd gydag ods o 9/4.

Mae 25 o bobol wrthi’n cyfri, sy’n cael ei gynnal mewn ystafell ar wahan i’r man lle bydd y cyhoeddiad yn cael ei wneud yn ddiweddarach.

Diwedd Ionawr oedd y dyddiad cau er mwyn yr enwebiadau gyda llaw, pedwar ymgeisydd rhoddodd eu henwau ymlaen – Leanne Wood, Dafydd Elis-Thomas, Simon Thomas ac Elin Jones. Ond fe dynnodd Simon Thomas ei enw yn ol yn ddiweddarach, a rhoi ei gefnogaeth i Elin Jones.

Fe ddywedodd y ddau ar y pryd y byddai Simon Thomas yn dod yn ddirprwy pe byddai Elin Jones yn ennill. Ond fe gafwyd sylwadau pigog i’r syniad yma gan ymgeisydd arall, Dafydd Elis-Thomas. “Fyswn i yn meddwl ei bod hi’n bwysig iawn cael dirprwy o rhywle gwahanol. Dw i yn byw ym Mro Morgannwg ac yn Eryri, yn cynrychioli Gwynedd. Ac felly mae’n bwysig iawn bod yna ddirprwy yn dod o rywle arall yng Nghymru.”

13.24 Mae hi yn dal i fod yn ddistaw iawn yma ar hyn o bryd, dim ond llond llaw o newyddiadurwyr ac ambell i wleidydd yn trafod dros goffi.


Yr Ymgeiswyr
Mae hi dal yn gyfnod dyfalu mawr pwy fydd yn mynd a hi heddiw, gyda’r bwcis a’r pyndits gwleidyddol yn gytun nad oes un ymgeisydd o’r tri – Elin Jones, Leanne Wood, a Dafydd Elis-Thomas – yn edrych fel enillydd clir.

Mae Jonathan Edwards, Aelod Seneddol Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr yma hefyd. Mae o wedi datgan ei gefnogaeth at Leanne Wood gan ddweud wrth Golwg360 mai hi ‘yw’r un fi’n uniaethu gyda fwyaf.’

13.12 Mae’r cyfri’n mynd yn gyflym yn ol pob son, ond maen nhw’n benderfynol o gadw pethau’n dawel nes daw’r cyhoeddiad swyddogol – gyda phob un yn y cyfri wedi gorfod ildio’u ffonau symudol cyn mynd i mewn.

Does dim son am y tri ymgeisydd hyd yn hyn, ond mae Jill Evans, Owen John Thomas a Joycelyn Davies eisoes wedi cyrraedd.

Mae rhai gefnogwyr yr ymgeiswyr eisoes yn y Gwesty, gan gynnwys y cyn-ymgeisydd sydd bellach wedi rhoi ei gefnogaeth i Elin Jones, Simon Thomas.


Yr ystafell yn barod...
Wrth i aelodau Plaid Cymru ddechrau cyrraedd Gwesty Dewi Sant yng Nghaerdydd ar gyfer y cyhoeddiad hollbwysig y prynhawn yma, mae darogan y gallai’r cyhoeddiad hwnnw gael ei wneud yn gynt na’r disgwyl. Roedd rhybudd y bore ’ma y gallai hi fynd yn noson hwyr, ond erbyn hyn mae darogan y gallai pethau ddechrau symud mor gynnar â 2.30pm.