Mae arweinydd Cyngor Abertawe, Chris Holley, yn mynnu ymddiheuriad gan y Blaid Lafur heddiw, ynglyn â honiadau ei fod yn destun ymchwiliad gan yr heddlu.

Mae’r Cynghorydd yn gofyn i’r blaid ymddiheuro am eu sylwadau, wedi iddo dderbyn cadarnhad nad oes unrhyw wybodaeth wedi cael ei gyflwyno fyddai’n ei gwneud yn ofynnol i’r heddlu siarad ag ef.

“Mae llawer iawn o ddyfalu a chamwybodaeth wedi bod dros y misoedd diwethaf, ond rydw i nawr wedi derbyn cadarnhad ysgrifenedig gan Heddlu’r De nad ydw i wedi bod yn destun ymchwiliad,” meddai Chris Holley heddiw.

“Mae’r Blaid Lafur wedi gwneud honiadau ffug yn gyson fy mod i’n destun ymchwiliad gan yr Heddlu, ond mae’n bwysig fod pobol Abertawe yn gwybod y gwir,” meddai.

‘Chwarae ar eiriau’

Ond mae arweinydd grŵp Llafur ar Gyngor Abertawe wedi wfftio’r galwadau hyn heddiw, gan ddweud fod eu safbwynt nhw ar y mater yn gywir ac yn gyson.

“Mae Chris Holley wedi bod yn destun ymchwiliad gan yr heddlu,” meddai’r Cynghorydd David Phillips wrth Golwg 360 heddiw.

“Mae e wedi bod yn destun ymchwiliad, ond dyw e ddim wedi cael ei gyfweld. Dydyn ni erioed wedi dweud ei fod e wedi cael ei gyfweld gan yr heddlu.”

Yn ôl David Phillips, mae galwadau Chris Holley yn “camgynrychioli’r sefyllfa,” ac yn “chwarae ar eiriau.”

Mewn datganiad gan y Prif Uwcharolygydd Mark Mathias o Heddlu’r De heddiw, dywedodd nad oedd “unrhyw wybodaeth wedi cael ei ddarparu gan unrhyw un fyddai’n ei gwneud hi’n ofynnol i ni siarad â neu gyfweld Arweinydd y Cyngor, Mr Chris Holley.”

Er hynny, dywedodd yr Uwch Brifarolygydd na fyddai hynny’n “rhagfarnu unrhyw ymchwiliad yn y dyfodol, petai gwybodaeth yn dod i law sy’n ei gwneud hi’n ofynnol i ni gynnal ymchwiliad.”

Y cefndir

Ym mis Medi 2011 cafodd honiadau eu gwneud yn erbyn rhai aelodau o Gyngor Abertawe, gan gynnwys Arweinydd y Cyngor, y Democrat Rhyddfrydol Chris Holley, ei ddirprwy arweinydd, a rhai aelodau o grŵp y Ceidwadwyr ar y Cyngor.

Y gred yw bod yr honiadau yn ymwneud â thrafodaethau rhwng yr arweinydd Dem Rhydd, ei ddirprwy annibynnol, a rhai aelodau o grŵp y Ceidwadwyr ynglŷn â chefnogaeth i brosiectau mewn wardiau arbennig.

Wedi i gŵyn gael ei wneud am yr honiadau yn hwyr y llynedd, mae’r mater wedi bod yn nwylo’r Ombwdsmon, ac mae ymchwiliad heddlu wedi bod ar waith.

Cadarnhaodd y Prif Uwcharolygydd Mark Mathias heddiw fod dogfennau yn ymwneud â’r mater wedi cael eu cyflwyno i Wasanaeth Erlyn y Goron, sydd yn “arferol mewn amgylchiadau o’r fath.”