Stiwdios newydd Porth y Rhath
Mae’r BBC wedi “ei ymrwymo i ddarlledu Cymraeg a chynnwys o Gymru” meddai pennaeth y Gorfforaeth, Mark Thompson, heddiw ar achlysur agor stiwdios newydd y BBC ym Mhorth Teigr, Caerdydd.
Fe fu Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones heddiw yn agor stiwdios newydd Porth y Rhath, ar safle 38 acer Porth Teigr sy’n cael ei ail-ddabtygu gan Lywodraeth Cymru a’r datblygwyr igloo.
Stiwdios Porth y Rhath y BBC yw’r rhan gyntaf o Borth Teigr i gael ei gwblhau ac fe fydd yn gartref i naw stiwdio, tri llain ffilmio allanol yn ogystal â chyfleusterau ôl-gynhyrchu a swyddfeydd drama BBC Cymru. Daw â Pobol y Cwm, Casualty, Upstairs Downstairs, Doctor Who ac Aliens vs Wizards, sioe newydd Russell T Davies i blant, ar yr un safle.
‘Gweithio mewn partneriaeth’
Dywedodd Carwyn Jones: “Mae’r stiwdios hyn yn gam mawr ymlaen i’r diwydiannau creadigol yng Nghymru, a byddan nhw’n gartref i gynhyrchiadau drama enwog sy’n cael eu gwylio ledled y byd. Mae’r diwydiannau creadigol – o deledu, i ffilm a theatr – yn bwysig iawn i’n heconomi ni, gan gefnogi swyddi a buddsoddiad ac mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol y dylai hyn barhau.”
Ychwanegodd, “Buddsoddiad tymor-hir i Lywodraeth Cymru yw Porth Teigr – yn y sector greadigol ac yng Nghaerdydd ill dau – ac mae’n dangos beth ellir ei gyflawni wrth i’r sector gyhoeddus a’r sector breifat weithio’n agos mewn partneriaeth.”
Meddai Cyfarwyddwr BBC Cymru Wales, Rhodri Talfan Davies: “Porth y Rhath yw canolfan gynhyrchu drama fwya’r BBC eisoes, ac rydym yn ymfalchïo yn ein record gref o gynhyrchu rhaglenni o’r radd flaenaf. Ond mae’r gwir gynnwrf am yr hyn sydd i ddod – mae gen i deimlad cryf bod y posibiliadau creadigol yma yn ddi-ddiwedd.”