Dafydd Rhys
Mae S4C wedi cyhoeddi heddiw mai Dafydd Rhys fydd capten newydd y tîm sy’n comisiynu cynnwys y Sianel.

Mewn datganiad yn hwyr prynhawn yma, cyhoeddodd S4C fod cyfarwyddwr cwmni Pop1 wedi cael ei benodi’n Gyfarwyddwr Cynnwys newydd i’r Sianel.

Bydd Dafydd Rhys yn ail-ymuno ag S4C yn sgil ei benodiad heddiw, ar ôl bod yn Olygydd Comisiynu ac yn Gyfarwyddwr Darlledu i’r Sianel yn ôl yn y 1990au.

Dechreuodd Dafydd Rhys ei yrfa gyda HTV ym maes plant ac adloniant ond, yn 2000, fe oedd yn gyfrifol am sefydlu cwmni Pop1, rhan o grŵp Tinopolis yn Llanelli.

Dafydd Rhys yw cyfarwyddwr y cwmni sydd wedi cynhyrchu rhaglenni fel Dic Jones – yn ei eiriau ei hun, Straeon Tafarn, a Ras yn Erbyn Amser, ac mae’n gyfrifol am redeg y cwmni o ddydd i ddydd.

Dywedodd llefarydd ar ran S4C y prynhawn yma y byddai’r mater ynglŷn â chysylltiad Dafydd Rhys â chwmni cynhyrchu Pop1 nawr yn fater i ddatrys “rhwng S4C a’r unigolyn.”

‘Barod am yr her’

Dywedodd Dafydd Rhys heddiw ei fod yn edrych ymlaen at fynd i’r afael â’r her sy’n wynebu S4C yn y blynyddoedd nesaf.

“Mae’r her sy’n wynebu S4C yn fawr ac mae angen cyfnod o gydweithio wrth edrych tua’r dyfodol, cydweithio gyda’r cwmnïau cynhyrchu, gyda’r BBC a gyda’n gwylwyr er mwyn sicrhau’r cynnwys a’r gwasanaeth gorau posib,” meddai.

“Mae’n rhaid rhoi’r gwyliwr yng nghanol popeth ’da ni’n ei wneud yn S4C, mewn ffordd sy’n briodol gydag egwyddorion sylfaenol darlledwr cyhoeddus.”

Daw’r penodiad fel rhan o newid strwythur comisiynu S4C gyda Chyfarwyddwr Cynnwys newydd – sef Dafydd Rhys – a phedwar Comisiynydd Cynnwys newydd, sydd eto i’w penodi, fydd yn gyfrifol am gomisiynu cynnwys a gwasanaethau digidol aml-lwyfan.

‘Person profiadol a chreadigol’

Dywedodd Ian Jones y Prif Weithredwr heddiw ei fod yn “falch iawn o benodi Dafydd i’r swydd allweddol hon. Mae’n berson profiadol a chreadigol iawn a dwi’n edrych ymlaen at gydweithio gydag e a’r tîm comisiynu wrth i ni wynebu sialensiau a chyfleoedd y misoedd a’r blynyddoedd nesaf.

“Cynnwys sy’n apelio ac yn berthnasol i’n gwylwyr sydd wrth wraidd ac wrth galon S4C a dwi’n hyderus y bydd Dafydd a’i dim yn mynd ati i hybu cydweithio ar draws y sector greadigol er mwyn creu’r rhaglenni a gwasanaethau gorau posib i’n gwylwyr,” meddai Ian Jones.

Cyhoeddodd Ian Jones heddiw ei fod disgwyl i’r pedwar comisiynydd cynnwys newydd hefyd gael eu penodi cyn diwedd y mis.