Ian Jones
Mae Prif Weithredwr S4C wedi galw am fwy o gystadleuaeth greadigol rhwng cynhyrchwyr teledu annibynnol Cymru, a hynny er mwyn creu gwell safon o raglenni ar gyfer y Sianel.
Wrth annerch cynhadledd Teledwyr Annibynnol Cymru yn Aberystwyth heddiw, dywedodd Ian Jones fod angen mwy o gydweithio yn y sector gynhyrchu annibynnol, a defnyddio’r amrywiaeth o arbenigedd ac adnoddau i gynnig y gwasanaeth mwyaf cystadleuol, ac o’r safon gorau.
“Mae angen symud i ffwrdd o’r hen agwedd o ‘Fo a Fi’ a ‘Chi a Ni’ tuag at bartneriaethau creadigol iachach a mwy effeithlon,” meddai Ian Jones.
Dywedodd hefyd ei bod hi’n bwysig fod pawb yn y diwydiant – darlledwyr, comisiynwyr a chynhyrchwyr – yn edrych ymlaen at y dyfodol yn hyderus, gyda’i gilydd.
Ac roedd ganddo addewid y byddai’r broses o ddatblygu’r sianel dros y blynyddoedd nesaf yn un o “gyd-drafod, cydweithio a chyfathrebu.”
Rhan o hynny yw’r penderfyniad i rannu elfennau o ganlyniadau ymchwil y sianel gyda’r sector cynhyrchu annibynnol o hyn ymlaen, er mwyn iddyn nhw gael mwy o adborth ar eu rhaglenni.
‘Clustnodi arian i gwmniau bach a thalent newydd’
Wrth rannu ei weledigaeth ar gyfer y diwydiant cynhyrchu gyda TAC heddiw, dywedodd Ian Jones y byddai’r strategaeth newydd yn golygu bod arian yn cael ei glustnodi ar gyfer cwmnïau bach a thalent newydd.
Cyhoeddodd Ian Jones hefyd y byddai’r broses dendro yn cael ei gohirio eleni mewn achosion lle mae comisiynwyr yn hapus yn greadigol ac yn ariannol gyda chyfresi fydd yn cael eu darlledu yn 2012.
Roedd un newid arall ganddo gyhoeddi heddiw hefyd, sef bod y drefn gomisiynu newydd yn S4C, dan arweiniad Cyfarwyddwr Cynnwys a phedwar Comisiynydd Cynnwys, nawr yn mynd i fod yn un di-dor, drwy’r flwyddyn, yn hytrach na’r drefn bresennol o ‘ffenestri comisiynu’.
‘Ehangu S4C’
Dywedodd Ian Jones ei fod hefyd yn edrych ar ehangu cymeriad S4C. Mae’r prif weithredwr eisoes wedi sôn wrth Golwg 360 am ei ddymuiad i ymestyn presenoldeb y Sianel ar-lein, ac mae’n ymddangos heddiw ei fod wedi rhoi’r cynlluniau hynny ar waith.
Dywedodd bod trafodaethau wedi cychwyn yn barod gyda’r Gweinidog dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, Ed Vaizey, i geisio ehangu cylch gorchwyl S4C, er mwyn galluogi’r Sianel i “weithio yn fwy yn y maes aml-gyfrwng.”
Dywedodd fod S4C hefyd yn awyddus i weld defnydd gwell yn cael ei wneud ar-lein o archif y Sianel, ac mae wedi gofyn i’r cwmnïau cynhyrchu gydweithio â S4C ar hyn.
‘Symud i’r cyfeiriad iawn’
Roedd y cyhoeddiad gan Brif Weithredwr newydd S4C yn “galonogol iawn” yn ôl Cadeirydd Teledwyr Annibynnol Cymru (TAC), Iestyn Garlick.
“Roedd yna ysbryd o gydweithio a chyd-drafod,” meddai wrth Golwg 360 wedi’r gynhadledd yn Aberystwyth y prynhawn yma.
Dywedodd fod y ffaith fod “Ian ’di gwneud y penderfyniad o ddod i drafod gyda ni’n uniongyrchol cyn ein bod ni’n darllen am y newidiadau yn y wasg yn dangos ei awydd i drafod â’r sector.”
Yn ôl Iestyn Garlick, roedd teimlad gobeithiol iawn ymhlith cynrychiolwyr y diwydiant cynhyrchu teledu annibynnol ar ôl clywed cyhoeddiadau’r Prif Weithredwr y prynhawn yma.
“Aeth pawb oddi yno wedi clywed rhywbeth o’n nhw’n gobeithio’i glywed,” meddai.
“Mae’n cynnig ffordd newydd o reoli’r arian sydd ganddon ni,” meddai, “ac mae hynny’n sicr yn rhywbeth y mae TAC yn ei groesawu.”
Roedd croeso arbennig i’r cyhoeddiad fod 5% o’r gyllideb o £67 miliwn yn mynd i gael ei glustnodi ar gyfer cwmniau bach, hefyd.
“Mae TAC wedi bod yn gofyn am hyn ers cryn amser,” meddai.
Dywedodd Iestyn Garlick fod y diwydiant teledu wedi cyrraedd “croesffordd” yn y blynyddoedd diwethaf, ond ei fod yn teimlo ar ôl cyhoeddiadau Ian Jones heddiw eu bod nhw yn “symud i’r cyfeiriad iawn.”
Croesawu partneriaeth gyda’r BBC
Mae Ian Jones wedi croesawu’r bartneriaeth gyda’r BBC ac yn “edrych ymlaen” at gydweithio gyda’r Gorfforaeth.
Yn y tymor hir, meddai Ian Jones, fe allai hynny olygu rhannu adeilad gyda nhw – mae gwaith wedi dechrau ar astudio hynny, gyda disgwyl casgliadau erbyn yr hydref.
Roedd penderfyniad y Llywodraeth i roi’r rhan fwya’ o gyllid S4C yn nwylo’r BBC wedi arwain at brotestio cry’ gyda phryder am annibyniaeth olygyddol a gweithredol y sianel.
Ar un adeg, roedd Awdurdod y Sianel yn ystyried gofyn am adolygiad barnwrol o’r penderfyniad.
Cytundeb
Fe ddywedodd Ian Jones wrth gynhyrchwyr annibynnol y sianel y bydd cytundeb drafft yn ei le erbyn mis Gorffennaf i setlo manylion y cydweithio.
Mae Bwrdd Partneriaeth Strategol yn trafod rhannu adnoddau a chydweithio.
“Dw i’n croesawu’r bartneriaeth newydd gyda’r BBC ac yn edrych ymlaen at gydweithio gydag un o frandiau mwya’r byd ac un o wasanaethau darlledu pwysica’r byd,” meddai Ian Jones.