Dafydd Iwan
Mae enw un o wyliau cerddorol mwyaf Cymru yn cael ei atgyfodi yn ne Ceredigion.
Yn y 1990au Gŵyl y Cnapan yn Ffostrasol oedd un o brif wyliau’r sin gerddoriaeth Gymraeg ond daeth i ben yn 2002 oherwydd costau cynyddol.
Bellach mae dyn busnes lleol yn atgyfodi’r enw mewn gŵyl gerdd yng Nghroeslan, ger Ffostrasol, dros benwythnos y Pasg, ac mae artist cyfarwydd ar frig y noson – Dafydd Iwan.
Dywedodd Adam Cole o Dragon Hospitality, trefnydd yr ŵyl, “Mae pawb yn cofio hen ŵyl y Cnapan a mae hi’n braf gallu atgyfodi’r peth. Rwy’n grwtyn lleol a rwy’n falch ‘mod i’n gallu cynnig rhywbeth nol i’r ardal ‘ma”.
‘Dim hawlfraint ar enw’r Cnapan’
Esboniodd trefnwyr gwreiddiol y Cnapan nad oedd hawlfraint ar yr enw a’u bod nhw’n fodlon bod y trefnwyr newydd yn defnyddio’r enw .
“Mae angen mwy o bethau ar bobol ifanc yn yr ardal ‘ma a phob lwc i’r trefnwyr newydd,” meddai Garnon Davies. “Does dim ots da fi bod nhw’n defnyddio enw’r Cnapan ond yn bersonol byddai’n well da fi weld mwy o gerddoriaeth werin yn yr ŵyl newydd.”
Dywedodd un arall o’r trefnwyr gwreiddiol, Ian ap Dewi: “Pob lwc iddyn nhw, ond mae trefnu gŵyl fel hyn yn fenter fawr a gobeithio na fydd e’n fwrn arnyn nhw.
“Un flwyddyn fe warion ni dros £100,000 ar gynnal yr ŵyl. Gwirfoddolwyr oedden ni i gyd a mwyaf oedd maint yr ŵyl, mwyaf oedd y dyletswyddau. Mae’n go debyg i’r Cnapan dyfu’n rhy fawr yn y pen draw”.
‘Angen mwy o gyfle i fandiau ifainc’
Mae gan Dafydd Iwan, sy’n dathlu hanner can mlynedd o ganu eleni, atgofion da o’r ŵyl.
“Gŵyl y Cnapan oedd uchafbwynt y flwyddyn a dwi’n edrych ymlaen at ganu yn yr ardal unwaith eto”.
Wrth drafod iechyd y sin roc Gymraeg, meddai Dafydd Iwan: “Mae yna egni mawr allan yno ond mae angen cyfleon ar fandiau i chwarae. Dwi’n ffodus achos dwi’n gallu cael gigs, ond dyw hi ddim mor hawdd ar fandiau ifanc.”
Ychwanegodd: “Mae gormod o dalent gyda ni yng Nghymru, a dim digon o bobol i brynu’r stwff”.