Mae dyn oedd wedi bod ar goll ers dydd Mawrth diwethaf wedi ei ddarganfod yn farw yn ardal Dyffryn yng Nghasnewydd.

Cafwyd hyd i gorff Geoffrey Hayward, 65 oed, oedd yn rhannol ddall, mewn ffos ger ei gartref yn Nyffryn.

Roedd y person oedd yn gofalu amdano wedi dweud wrth yr heddlu ei fod ar goll.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gwent nad oes amgylchiadau amheus am ei farwolaeth ac mae’r crwner wedi cael ei hysbysu.