Mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg heddiw’n lansio adolygiad o waith y Bwrdd, lai na thair wythnos cyn i’r corff ddod i ben.

Mae’r Bwrdd wedi comisiynu Adolygiad o Fwrdd yr Iaith Gymraeg 1993-2012 fydd yn edrych yn ôl dros hanes y bwrdd iaith ers ei sefydlu fel rhan o Ddeddf Iaith Llywodraeth Geidwadol John Major.

Mae disgwyl i Gadeirydd presennol Bwrdd yr Iaith, Marc Phillips, roi cyflwyniad yn y lansiad heddiw ble fydd yn mynegi barn am beth ddylai ddigwydd o ran datblygu’r Gymraeg yn y dyfodol.

Mae Golwg360 yn deall y bydd yn edrych ar faint o arian sydd ei angen ar y Gymraeg, sut gellir sicrhau mwy o swyddi i bobl yn yr ardaloedd Cymraeg traddodiadol, a defnyddio dulliau gwahanol i hyrwyddo’r Gymraeg mewn gwahanol ardaloedd yng Nghymru.

Ar 31 Mawrth bydd cyfrifoldebau Bwrdd yr Iaith yn cael eu trosglwyddo i’r Comisiynydd Iaith newydd, sef Meri Huws, ynghyd â Llywodraeth y Cynulliad.