Leigh Halfpenny, a sgoriodd holl bwyntiau Cymru yn yr hanner cyntaf
Mae Cymru wedi curo’r Eidal 24-3 yn yr olaf ond un o’i gemau ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad y tymor yma.
Er y fuddugoliaeth ysgubol, ac er na fu’r Eidal yn unrhyw fygythiad drwy’r holl gêm mewn gwirionedd, digon araf fu Cymru i fanteisio ar y sefyllfa.
Ni chafwyd yr un cais yn yr hanner cyntaf, er i dair cic gosb gan Leigh Halfpenny roi Cymru 9-3 ar y blaen erbyn hanner amser.
Jamie Roberts a sgoriodd y cais cyntaf ddeng munud i mewn i’r ail hanner, ar ôl rhedeg hanner hyd y cae. Gyda mantais Cymru’n cynyddu i 16-3, ni fu unrhyw amheuaeth am ganlyniad y gêm wedi hynny.
Cafodd ymdrechion Cymru eu llyffetheirio hanner ffordd trwy’r ail hanner, pan gafodd Leigh Halfpenny ei anfon i’r cwrt cosbi ar ôl achosi anaf i gapten yr Eidal.
Er gwaethaf sawl ymgais gan Gymru i gynyddu’r sgôr, fe fu’n rhaid aros tan y munudau olaf am gais gan Alex Cuthbert i roi diweddglo cyffrous i’r gêm.
(Adroddiad llawn ar y gêm i ddilyn)