Yng nghysgod gêm Cymru a’r Eidal bydd y Sgarlets yn chwarae yn rownd gyn-derfynol cwpan yr LV= ddydd Sul yn erbyn Seintiau Northampton.

Dyma fydd y trydydd tro i’r ddau dîm gwrdd y tymor hwn, a bydd y Sgarlets yn ceisio ail-adrodd eu llwyddiant y tro diwethaf iddyn nhw fynd i Erddi Franklin, pan guron nhw Northampton o 23-28.

Mae’r Sgarlets wedi cynnwys pum chwaraewr a ryddhawyd o garfan Cymru, sef Stephen Jones, Rhodri Jones, Lou Reed, Liam Williams ac Aaron Shingler.

Mae Nigel Davies yn croesawu’r ffaith fod y Sgarlets dal yn brwydro mewn tair cystadleuaeth, sef cynghrair y RaboDirect Pro 12, Cwpan Amlin, a Chwpan LV=.

“Gorau i gyd po fwyaf mae’r bois yn profi rygbi dwys o’r math yma,” meddai Nigel Davies, prif hyfforddwr y Sgarlets.

“Dyw mwyafrif y tîm ar gyfer dydd Sul heb fod yn y sefyllfa yma o’r blaen ac maen nhw’n awyddus i brofi eu hunain.”

“Mewn gêm one-off fel hyn gall unrhyw beth ddigwydd.”

Dyma dîm y Sgarlets yn llawn, y gêm i ddechrau am un brynhawn Sul:

15 Dan Newton, 14 Liam Williams, 13 Gareth Maule (capten), 12 Adam Warren, 11 Andy Fenby, 10 Stephen Jones, 9 Liam Davies, 1 Rhodri Jones 2 Emyr Phillips , 3 Deacon Manu, 4 Lou Reed, 5 Dominic Day, 6 Aaron Shingler, 7 Josh Turnbull, 8 Kieran Murphy.

Eilyddion: Kirby Myhill, Phil John, Peter Edwards, Sione Timani, Matt Gilbert, Gareth Davies, Nick Reynolds, Iongi Viliame.

Bydd yr holl gyffro’n fyw ar S4C gyda’r rhaglen i ddechrau am 12.40pm.