Fe fydd ‘Adran Gylchgrawn’ gwefan Gymraeg y BBC yn diflannu ddiwedd y mis.
Ychydig dros flwyddyn yn ôl daeth ‘BBC Chwaraeon’ i ben ar y wefan.
Yn yr ‘Adran Gylchgrawn’ ceir adolygiadau a chyfweliadau ym meysydd ffilm, llyfrau a’r theatr, ynghyd â chasgliad y golygydd Glyn Evans o ddyfyniadau’r wythnos.
Meddai’r BBC: “Mi allwn gadarnhau na fydd tudalennau bbc.co.uk/cymru/cylchgrawn yn cael eu diweddaru o fis Ebrill ymlaen.
“Mae hyn yn ganlyniad toriadau blaenorol i wasanaethau BBC Cymru ar y wê yn hytrach na thoriadau diweddar DQF.
“Mae gwefannau’r BBC yn cael eu hail drefnu yn ystod y misoedd nesaf a’r gobaith yw y bydd cyfle i roi sylw i’r celfyddydau yn y Gymraeg ar y wê yn y dyfodol.
“Ac wrth gwrs mae Radio Cymru yn parhau i adlewyrchu bwrlwm llenyddiaeth, diwylliant a chelf Cymru, ar yr awyr a’u gwefan.”