Eric Joyce
Mae’r Aelod Seneddol Eric Joyce wedi osgoi cyfnod o garchar heddiw, ar ôl iddo ymosod ar bedwar gwleidydd a dweud wrth yr heddlu: “Ni chewch fy nghyffwrdd i, rwy’n AS”.
Hefyd mi alwodd y plismyn yn “c****” ar ôl colli’i ben yn lân a phendolcio’r AS Torïaidd Stuart Andrew a’r Cynghorydd Ben Maney.
Roedd yr aelod Llafur wedi’i rybuddio ei fod yn wynebu cyfnod dan glo.
Ond yn gynharach heddiw cafodd ddirwy o £3,000 a’i orchymyn i dalu £1,400 i’w ddioddefwyr, ar ôl pledio’n euog mewn Llys Ynadon.
Fe gafodd ei wahardd o dafarnau am 12 mis hefyd dan delerau gorchymyn cymunedol, ac mae’n gorfod cadw at gyrffiw o ddydd Gwener i ddydd Sul.
Roedd Joyce yn derbyn ei fod yn feddw dwll adeg yr ymosodiad, ac roedd ei fargyfreithiwr yn dweud ei fod yn teimlo cywilydd ac embaras.